Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gymaint a'i fod yn mygu, yn dwyllodrus, yn peri pen-ysgafndra, yn swyngyfareddol ac yn ddrygsawrus. Fe soniai am y brenin hwnnw, ar ddiwrnod hela, yn ymochel rhag drycin mewn cwt mochyn, ac yn gorchymyn llosgi catiad o'r dybaco er mwyn rhoi allan arogl y cwt, ond yr oedd y naill arogl drwg yn lladd y llall. O ddrygau bychain, ebe fe, y deuai drygau mawr, fel y tardd y Danube o ystabl merlod. Dyfais y fall, ebe fe, oedd y gynau a phibellau dybaco, y naill yn saethu allan a'r llall yn saethu i mewn. Nid oedd unrhyw lysieuyn, fe ddywedai weithiau, wedi gwneud cymaint galanastra ar fywyd dyn a'r dybaco, a'r nesaf ato oedd y cywarch, a wneid yn gortyn crogi. Fe gyffelybai y ddiod a'r dybaco i efeilliaid Seiam, ag un bywyd. i'r ddau, sef chwant anghymedrol dyn; a phan rodder terfyn ar y naill, dyna ergyd farwol y llall.

"Mi roe ergydion trymion i'r arfer â'r ddiod. Mi a'i clywais yn son am fwch gafr yr hen ficar o Lanymddyfri, cyn dyddiau troedigaeth y ficar, ac fel' y perswadiodd y ficar y bwch gafr i yfed cwrw unwaith, gan ei feddwi, ond na fynnai mo'r bwch gafr hwnnw gyffwrdd â chwrw byth ond hynny. Mawr y blas a gaffai'r hen Ifan ar y cymhwysiad, gan ddangos y bwch gafr yn rhagori mewn synnwyr ar wýr goleuedig, fel ag y mynnai lliaws yr yfwyr eu bod. "Ni feddant mo synnwyr bwch gafr [clinc]," meddai efe,—"yr hurtiaid swrth iddynt [clonc]!" Ni fynnai efe gyfyngu'r mo'r wers i'r meddwon, ond fe ddeuai pawb yfwyr dan y fflangell yr un fath a'i gilydd. "Hytrach yn gibog a surllyd a fyddai wrth drin pwnc fel hwnyna. Fe gawsai ambell un o hoffwyr y digrif fwy o flas arno o'r herwydd; ond ni thueddai'r dull hwnnw at boblog— rwydd. Ac atalfa arno oedd y mygdod a'r rhwnc yn y llais. Nid yn anaml y deuai cainc o beswch drosto ar ganol yr araeth, weithiau fwy nag unwaith, er blinder iddo'i hun ac i'r cyn— hulliad, oddieithr inni'r hogiau. Yr oedd ganddo wich ryfedd, hefyd, ar dro, er na sylwid nemor arni ond pan gyffroid ef gan ryw syniad, ac yna, weithiau, dyna wich anferth a agorai iâd dyn, ac a gwbl ddileai argraff y sylw i'r lliaws. Yr anffawd ydoedd mai ar ganol ei bethau goreu i gyd y deuai'r wich. Ni feddai ychwaith ar lywodraeth deg ar ei feddwl ei hun. Rhyw arwydd o hynny, mi debygaf, oedd y dull y chwareuai ei glust— iau i fyny ac i lawr, megis petae iddynt fywyd o'r eiddynt eu hunain, annibynol ar y gweddill o'r corff, pan gyffroid ef gan