Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARWEINIOL. 95 feddwdod; ond e fyddai bob amser ar adeg felly â'i safn yng- haead fel llyffant melyn yn y cynhaeaf gwair. Ac nid ofn yn y byd oedd arno, canys ni wyddai am ofn dyn. Eithr ni ddeallais mo'r peth yn gwbl, oddieithr y dywedid fod rhywbeth yn groes- ymgroes yn ei nodweddiad. Ac yr ydoedd o'r gyfryw athrylith fel nad anhawdd cyd-dynnu âg ef ond ei gymeryd mewn ffordd rywiog, enillgar, er na syflai efe fyth er ungwr oddiwrth ei ddirwest ddeuwedd, chwedl yntau, sef ymherthynas â'r ddiod ac â'r dybaco. "Yr oedd rhyw ddull cyrhaeddgar ganddo ar dro, megis pan soniai am yr hen arfer o roi cwpan gwrw i'r hen wrachiod mewn cynhebrwng, yr hyn a elwid, yn ddiodlyst, pryd y dymun- ent hwythau eu hewyllys da i'r trancedig, ac y dywedai mai dyna yn union gymaint o rinwedd oedd yn y ddiod, sef cymaint ag a brofai'r marw oddiwrth ddiodlyst. Ni feddyliodd gymaint am ategu ei ddywediadau âg unrhyw brofion; ond yn unig, braidd, am wneud y dywediad yn ddigon cryf ac yn ddigon miniog o ran y geiriad. Ac yn hynny yr oedd yn llwyddiannus petae ei ddawn ond yn cyfateb. Un rheswm am y coll a nod- wyd ydoedd, na chyfarchai ond yn anaml unrhyw gynhulliad ond o ddirwestwyr. Er hynny, yr oedd ystyr ddofn mewn lliaws o'i ddywediadau, megis pan gyffelybai'r yfwr i'r gwr yn cyffwrdd â'r torpedo bysgodyn, pan gaffai ergyd drydanol drwy ei fraich a'i ysgwydd os nad ei ben; ac os na ollyngid y pysgod- yn, fe geid ergyd ar ol ergyd nes yn y man golli'r gallu i agor y llaw, ac yna'r ergydion parhaus yn troi yn angeu. Mi a'i gwelais yn creu gradd o ddifrifwch mewn cyfarfod yn yr awyr agored, lle'r oedd lliaws o yfwyr, â'r sylw hwn. "Ar dro mi a'i clywais yn ennyn peth brwdfrydedd, sef fyddai hynny ar adeg cyffro ynglyn à dirwest, megis yn adeg y Temlwyr Da. Derbyn cryn liaws o bobl ieuainc i'r seiat yr oeddis. Ar derfyn hynny, fe gododd yntau ar ei draed o ganol y llawr ohono'i hun, ac a roes iddynt araeth ferr ar ddirwest. Yr oeddynt i gyd wedi arddel eu hunain yn ddirwestwyr, a chymellai yntau hwynt i bybyrwch yn hynny. Fe'i coffhae am yr hen bendefig Albanaidd hwnnw ar fîn brwydr Bannockburn yn tynnu i lawr oddiar y mur yr hen gleddyf teuluaidd, a chan ei ddodi yn llaw ei fab yn dywedyd,- Ymafl yn dynn ynddo, fy mab! Ni fethodd gan y cleddyf yna erioed a thorri ei ffordd drwyodd i fuddugoliaeth.' Dirwest oedd y cleddyf, dealler.