Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARWEINIOL. IOI Hyd yma'r gwr na fynn i'w enw mo'r ymddangos. Gwyddis na ddigia efe am ddywedyd ddarfod i'w gydnabyddiaeth â'r bobl a bortreadir ganddo ei arwain yn hytrach i feithter. Rhoes yntau ganiatad i gwtogi faint a fynnid; a gwnaethpwyd rhyw gymaint ar hynny. Ni fuasai'r meithter yma yn gweddu ond ar y dybiaeth fod y bobl y sonir am danynt yn gynlluniau i fesur mwy neu lai o ddosbarthiadau o ddirwestwyr Arfon o d'dechre dirwest hyd o fewn rhyw 30 neu 40 mlynedd yn ol. Wedi'r cwbl, e fu dirwest ers dros bedwar ugain mlynedd bell- ach yn rhan fawr o ymdrech yr eglwys, a theg ydyw rhoi cais at gyfleu syniad gweddol lawn am nodwedd yr ymdrech honno. Ac nid oes ranbarth yng Nghymru, debygir, os yn unlle arall, y bu dirwest yn fwy blodeuog ynddo, na dirwestwyr amlycach a mwy selog nag a fu yma. Fe ymddengys mai cynrychioli'r Methodistiaid y mae'r gwŷr a bortreadwyd yn y dernyn a rodd- wyd, yr hyn sy'n esgus chwanegol am ei feithter. Os yw'r don braidd yn feirniadol, onid gwell hynny yn y pen draw, er mwyn addysg? Dyma nodiad Plenydd ar ddirwest yn y cylch: "Y rhai y gallaf fi eu galw i gof yn amlwg efo dirwest ym Mangor, pan oeddwn i yno [1863-4. Edrycher Glanadda], ac yn boethlyd ynglyn â'r achos fy hunan, oedd W. Thomas, sef brawd Owen Thomas; W. Williams y cwriwr: gwr o'r enw Dorkins; gwr o'r enw Jones a chanddo fab yn Awstria [?]; William Richards: Morgan Richards a'i frawd, Thomas Richards. Ond y Demos- thenes oedd John Roberts Bradford House [edrycher y Taber- nacl]. Yr oedd ym Mangor yn y cyfnod hwnnw yn ddifwlch gyfarfod dirwest am hanner awr wedi pedwar y prynhawn Sul; a'r gwyr selog a nodwyd ydoedd y rhai a gadwodd y lamp i oleuo yn y cyfarfod hwnnw. Fe ragorai John Roberts ar y cwbl ohonynt i'm tŷb i, a hynny am ei fod mor ffres yn ei sylwadau. Ni chollais i gymaint ag un o'r cyfarfodydd hyn mewn blwyddyn a hanner o amser. Ni fyddai llawer yn bresen- nol; ond os gwnaed i eraill y daioni a wnaethpwyd i mi yn y cyfarfodydd hynny, nid aethant yn ofer. Yr oedd rhyw ddwsin ohonom, fechgyn ieuainc, yno yn gyson, ac ymhlith y rheiny yr oedd cantorion y Corff. A cheid arweinwyr y canu yn yr hen Dabernacl yno yn gyson. Y pryd hwnnw yr oedd yr enwog William Hoyle o Tottington, swydd Lancaster, yn dechre dod