Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

102 METHODISTIAETH ARFON. i sylw fel ystadegydd ynglyn â dirwest, a darllenid ef yn fanwl gan y Bradford House; a choginiai yntau'r ystadegau a'r ym- resymiadau ar ein cyfer ninnau, ffyddloniaid yr hanner awr wedi pedwar. E fyddai gan y Bradford House touches of humour yn awr ac eilwaith, megis hwnyma: "Tendiwch i y fforinars yma, ddynion ieuainc,-yr Holland Gin, y Jamaica Rum, y French Brandy a'r Dublin Stout yma! Dyma'r hen niggers. efo'u copa gwyn a'u hwyneb pygddu. Beware boys!" Fe gafodd ef ac eraill eu rhan o ddirmyg am eu mawr sêl. Fe gadwai William Thomas yn fwy at wleidyddiaeth y pwnc. Dadl Diehards y Ddiod yn erbyn y cyfarfod ydoedd fod peth- au'r chwe diwrnod yn gormesu ar y dydd cyntaf. Yr oeddwn i cyn hyn wedi bod yng nghorlan y Parch. Morris Hughes yn y Graig. Fe roes ei ddwyster a'i dynerwch ef argraff ddofn ar fy meddwl ymhlaid dirwest; a'r un modd y gallaf ddywedyd am blant Troscanol hefyd. Hwyrach na ddylwn gloi ar hyn heb gyfeirio at fy hen gyfaill, Owen Morgan y dilledydd o'r Felinheli. Dyna'r dyn trylwyraf a welais i erioed fel dirwestwr. Fe ddarllenai bob llenyddiaeth ddirwest y cai afael arni. Cas gwyr oedd yr yfwyr ganddo, nid gwaeth pwy fyddent na pha le y ceid hwy, o'r pulpud i lawr. Fe ddefnyddiai eiriau go sathredig weithiau i ddisgrifio' preswylwyr y Gethern,' a gwnae ddefnydd o'u henwau o'r Tywysog i lawr. [Sef Tywysog y Gethern a'i ben-capteniaid, onide?] Yr oedd, yn wir, yn ofn- adwy o arw ar dro. Ond wrth són am y meddwyn diwygiedig yn ceisio gorchfygu ei chwant, gallai'r un gwr fod mor fwyn a'r awel ac mor dyner a'r lili. Mi welais aml ddeigryn o'i lygad mewn cyfarfodydd dirwest. Ac er garwed fyddai, mi fyddwn yn ei garu o waelod fy nghalon." Bu dinas Bangor yn faes dadl mewn perthynas â chrefydd fwy nag unwaith. Mae'r hyn a elwir yn arbennig yn Ddadl Bangor (Bangorian Controversy) yn rhy bell yn ol i amcan yr hanes hwn, oddieithr i gyfeirio ati yn fyrr iawn. Yr oedd y ddadl honno yn canolbwyntio ar Benjamin Hoadly a oedd yn esgob yma yn ystod 1715-21. Yn 1716 fe gyhoeddodd lyfryn yn erbyn y clerigwyr hynny a wrthodai'r llw o ffyddlondeb yn 1689 i Gwilym a Mair, a'r flwyddyn ddilynol fe gyhoeddodd ei bregeth o flaen y brenin yn erbyn awdurdod ddwyfol brenhin-