Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARWEINIOL. oedd a chlerigwyr. Fe ddywedir fod y cynnwrf a achoswyd o'r herwydd ar ryw gyfrifon yn ddigyffelyb, a'r nifer o'r llyfr- ynau a gyhoeddwyd ymherthynas â'r pwnc yn anhygoel o fawr. Fe ystyrrir ddarfod i Hoadly wneuthur gwir wasanaeth wrth ymosod ar gulni sectol ac ysbryd plaid mewn crefydd. Ymhlith ei wrthwynebwyr yr oedd William Law, cyn ei gyfnod fel cyfrinydd mewn modd arbennig. 103 Fe gyhoeddwyd Cyngor difrifol Periglor i'w Blwyfolion yn 1801 yn ddienw. Wedi hynny, ar ei waith yn cyfieithu ei lyfryn i'r Saesneg, y gwybuwyd mai person Aber ydoedd yr awdwr. Yn ateb i hwn, ynghyda llyfryn arall gan reithor Llandyfrydog, Môn, sef Person Parys Twm o'r Nant, y sgrifennodd Charles o'r Bala ei Amddiffyniad i'r Methodistiaid, a gyhoeddwyd yn 1802. Cyfeiriad person Aber ydyw fod y weinidogaeth o osod- iad dwyfol ac yn haeddiannol o barch y plwyfolion, ynghyda rhybuddio rhag ymyrwyr â'r swydd. Nid yw Charles yn ei ateb yn rhoi nemor le i beriglor Aber, ac mewn cyfeiriad at hynny y dywed Twm o'r Nant yn ei gân i berson Parys (1802): Bydd 'ffeiriad Aber, debyg, yn ddig na chawsai ddarn, Ni thalai hwn mo'i ateb, cysondeb carreg sarn. Mae cyfran fechan o'r Amddiffyniad wedi ei sgrifennu gan Thomas Jones Dinbych, ac mae ganddo ef linellau mewn cyf- eiriad at y periglor: A reibiwyd Llên-wr Aber, Y dyn glân yn Din y Glêr, Pan wnaeth y gwan ffraeth ei ffrêg, Ffôl wr, y fath ffiloreg? Rhwyfodd at ffydd-wŷr Rhufain, I gael rhodd o gail y rhai'n; Urddiad, medd ef, ac eurddawn: Trwy hwn mae rhâd a llâd llawn ! Ffei! e gododd ffug-adail, Bobydd siom, ar Babaidd sail! Gwenhydiw gwan ei hedion, Nis medd ef haden gref hon: Us y gwaith o ais y gwr; Traith dondio, truth y dwndwr: Llafur gau yw'r llyfr i gyd, Clep anfoes clopa ynfyd.