Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

106 METHODISTIAETH ARFON. fel llyfr a gyhoeddodd efe yn erbyn Calfiniaeth (Gwyliedydd, 1832, t. 150). Nid ydyw Owen Thomas yn ei adolygiad ar y ddadl wedi sylwi ar y llyfr hwn. Y rheswm am hynny, mae'n ddiau, ydyw na olygid mono ganddo fel ymyriad uniongyrchol a'r ddadl. Fe'i hystyrrid yn llyfr pwysig gan y Wesleyaid am ddegau o flynyddoedd. Yn y Gwyliedydd am Mawrth, 1832. mae R. LI. yn adrodd breuddwyd, pryd y gwel ei hun yn croesi afon angeu. Ar fin yr afon fe welai yma ac acw gruglwythi, yn cynnwys amrywiaeth o bethau a fwrid ymaith gan y ffordd- olion cyn croesi, ond a oedd wedi glynu wrthynt hyd hynny. Ar ddechreu'r yrfa yr oedd y cruglwythi mwyaf i gyd o'r cyfryw bethau, a cheid hwy hefyd ar hyd y ffordd, ac yna ar fin yr afon, ac yr oedd rhai pethau yn nofio ar lif yr afon. A rhyw farnau neu ddaliadau enwadol oedd y cruglwythi diweddaf yma a'r pethau a nofiai ar wyneb y lli, sef pethau y tybiwyd yn hir gan y pererinion y cawsent groeso yn y ddinas. Ond er mor dynn y rhwymwyd am danynt y culfarnau a'r partïol bynciau, wele hwynt fan bellaf yn gorfod ymadael â nhwy yn llif yr afon! Wele het gantel lydan y Crynwr yn myned gyda'r ffrwd at y cruglwyth mawr o berwigau esgobion a'r cyffelyb, ac yn olaf i gyd y "bon-hetau Wesleyaidd!" Ac ebe'r breuddwydiwr wrtho'i hun,-"Sut yr ä y gwr acw drosodd, ac ar ei gefn anferth lyfr o gorff diwinyddiaeth, heb fawr ddim ond testynau o'r ysgrythur o wirionedd ynddo?" Ac ebe fe wedi hynny yn y man,-"Dacw [Thomas] Jones ac [Owen] Davies yn myned i fyny o'r dwfr gan ysgwyd dwylo, ond och! y cruglwyth o bapyrau ymrysongar sydd yn ymledu hyd yr afon ar eu hol." Yn rhifyn Mai wele lythur oddiwrth Robert Williams yn tuchan yn ddolefus am y breuddwyd, gan ddyfynnu'r canmol- iaethau uchel a roddwyd i'r Corff Diwinyddiaeth gan yr Eur- grawn Wesleyaidd a'r North Wales Chronicle. Fe edliw Robert Williams i R. LI. nad oedd ganddo ddim ateb teg i'r llyfr, dim ond dychmygion gau, ac am hynny o anwiredd oedd yn y llyfr i'r awduron Calfinaidd y dyfynnwyd ohonynt mor helaeth y perthynai hwnnw. Yn rhifyn, Mehefin mae R. Ll. yn ateb nad oedd mwy cysylltiad rhwng y Breuddwyd â Chorff Diwinyddiaeth Robert Williams nag oedd rhwng clochdy'r Bala a llanw a thrai'r môr. A dywed ymhellach nas gwelodd ac nas clywodd er pan aned am R. W. o'r Frondeg na'i Gorff Diwinyddiaeth ychwaith. Yn rhifyn Awst mynega Robert