Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARWEINIOL. addysgwyd ef hyd y bymthegfed flwydd o'i oedran. Gwr yd- oedd ag urddas yn ei bresenoldeb. Yr oedd yr urddas hwnnw i'w deimlo yn arbennig ynddo, feallai, yn y pulpud; ac mae'r teimlad hwnnw o urddas, i'w hen wrandawyr, fel ynglyn wrth ei enw o hyd. Ac yn yr urddas yma yr oedd William Ambrose yn cynrychioli'r ddinas yn deilwng yn yr hyn sy'n bwysicaf yn ei golwg hi ei hun. Gwir fab y ddinas ydoedd. Meddai ar gyfuniad ardderchog o ragoriaethau, mewn urddas, dawn es- mwyth, llais meddal, meddwl amrywiol ei deithi, iaith goeth, a thros ben y cwbl eneiniad oddiuchod. A'r hyn ydoedd William Ambrose fel pregethwr, dyna ydoedd fel llenor a bardd. Fe ddengys ei storïau a'i emynau fod ynddo ffynnon o deimlad tyner. 123 Gwr ydoedd Corfanydd 1805-76) a ddaeth i gryn sylw yng- lyn â dirwest. Iddo ef y rhoes John Thomas ei ardystiad dir- westol (Gwaith, t. 30). Siaradwr afrwydd iawn a llediaith Seisnig yn drwm arno, eb efe am dano. Ni rwystrodd mo hynny iddo yn 1868 ddwyn allan y Traethiadur, sef hyffordd- iant mewn darllen a llafar gyhoedd; ond dichon ei fod ef ei hun yn hynny o amser wedi gwneuthur dirfawr gynnydd yn y celfyddydau a nodir. Yn 1848 yr oedd wedi cyhoeddi ei A law- ydd Trefriw. Yr oedd yn enedigol o blwy Bangor, er wedi symud i Nerpwl mewn oedran cynnar. Treuliodd ddiwedd oes ym Mhorth Aethwy. Fe gafodd Robyn Ddu bob cefnogaeth a allesid ei roi yn nechre ei yrfa gyhoeddus, a hynny yn wyneb cwympiadau pwysig, gan y Dr. Arthur Jones, yr "hen sant," fel y geilw ef. Anogodd Arthur Jones ef i bregethu mewn tý gerllaw Pont Menai, gan ei gynnal yn hynny, mae'n ddiau. Ni ddywedir wrth ba ben i'r Bont. Dywedir ddarfod iddo gael lle gan y Dr. i gadw ysgol, sef y lle, mae'n debyg, y dywed nodiad Syr Henry iddo fod yn cadw ysgol yno, sef y Capel Mawr, Cerrig Ceinwen, lle bu Charles Pierce Bangor gydag ef, a'i unig ysgol yntau. Am ysbeidiau heb fod yn faith, debygir, y parhaodd y gorchwylion hynny. (Teithiau Robyn Ddu, t. 49, 51. Am ragor am Robyn Ddu edrycher yr Arweiniol i eglwysi Caer- narvon). Ar wyn yn cychwyn y ceid-rhai dynion. Yn rhoi dannedd bleiddiaid; Arthur rwydd a roes wrth raid Rywiog annedd i'r gweiniaid. (Robyn Ddu).