Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

124 METHODISTIAETH ARFON. Llai na 60 mlynedd yn ol gallesid clywed cyfeiriadau nid anfynych at O. O. Roberts y meddyg, a breswyliai yn y ddinas, ynglyn â'i ymdrechion yn erbyn gormes. Yr ydoedd ef yn wron yngolwg lliaws mawr o bobl drwy'r wlad. Tebygir fod ganddo ddawn arbennig i wneuthur ei lais yn glywadwy lle mynnai ei glywed, ac i ymyrryd yn llwyddianus mewn achos- ion o ormes, gan nad pa mor uchel bynnag safle gymdeithasol y gormeswr. Fel lefiathan Job fe'i gwnaethpwyd yntau heb ofn. Dros ben hynny fe arferai garedigrwydd a haelioni o'i du ei hunan. Nid bob amser yr ieuwyd ynghyd yr ysbryd i ymladd yn erbyn gormes gyhoedd a'r ysbryd i arfer haelder gyfrinachol; ond fe'u hieuwyd ynghyd yn y meddyg hwn, a'r naill a'r llall i'r graddau eithaf. Os gellir ymddiried i'r atgof am ddadwrdd go bell yn ol fe ddeuai i wrthdarawiad go ffyrnig ar brydiau à lliaws o bobl, yr hyn ni fuasai ddim i ryfeddu ato, pa un a ydoedd efe bob amser ar yr iawn ai peidio. Fy annerch at wr o fonedd-rhoddaf Gwir haeddai anrhydedd; .. Mawr ei aidd am roi i ddyn Ei wir iawnder er undyn. I'r golwg dyg ddirgelion-anaele Rhai na wel eu digon; Noethai'r blaid, arw haid hon,- Teulu hudo'r tylodion. A welwyd ei wrolach-yn erbyn. Arbed twyll a sothach? A fu un o'i addfwynach I ddwyn o'i boen dlawd ddyn bach? Hynotaf feddyg natur-a gwr nôd, Nid gwr a wnaed ar antur; Mynn gael, pe bae pawb mewn gwg, O'r gwaelod dwyll i'r golwg. (Caledfryn). Pan ofynnodd yr ysgrifennydd i Evan Jones Moriah unwaith, -"Mi ddaru'ch gyfarfod à Robyn Ddu?" ei ateb ydoedd,- "A Robyn Wyn!" Wedi gofyn pa beth ydoedd hwnnw? yr ateb oedd,-"Crydd a bardd a galarnadwr." Fe eglurai fod llawer iawn o alarnadu y pryd hwnnw, ac y byddai Robyn Wyn yn ddifeth yn ennill mewn cystadleuaeth ar farwnad. A chwan-