Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

125 egai hefyd, fod y cwestiwn a'r ateb yn y Pwnsh [Cymreig] un- waith: "Paham y mae Robyn Wyn mor debyg i Benmaen- mawr? Am fod ei drwyn yn wastad mewn dwr hallt." Sef ei fod yn wastad yn rhyw alarnad am rywun neu'i gilydd. A mwmliai Evan Jones fel mewn ymson,-"Crydd-a bardd-a galarnadwr!" O dan gronglwyd Robyn Wyn y cyfarfu Plen- ydd â Thanymarian gyntaf, sef pan ydoedd ym Mangor yn ystod 1863-4. Yr oedd Robyn wedi cadw Plenydd yn hir heb ei esgidiau, ac ebe Plenydd wrtho : ARWEINIOL. Robyn Wyn ar ei ben ôl-wr syn, Ar ei sedd gwyryddol, Yn ddedwydd a breuddwydiol; Eitha right, ond gwaith ar ol. Ebe Robyn yn ol: Harri, yr hen ddyhirin,-a'i olwg Yn hen elach melyn, Lluniwyd ef yn llai na dyn, Yn rôg, yn gegog goegyn. A dyna Tanymarian yn gweiddi allan o'r gegin: Robyn o'i go, er ei ben gwyn, Ffei di, yn rhegi'r hogyn. (Geninen, 1910, t. 207). Ym Mangor yn 1863 y cyfarfu Plenydd â Gweirydd ap Rhys 1807-89) am y tro cyntaf, a threuliodd gannoedd o oriau gydag ef ym Mangor a Chaergybi wedi hynny. Noswaith sefydlu cymdeithas ddadleuol yn y dref oedd hynny. Disgrifir ef gan Plenydd fel gwr lled hynod yr olwg arno, wyneb llawn, llwyd, llygaid bychain duon â llymder y fellten ynddynt, ei wallt yn llaes a'i farf yn llydan ac yn llaes. Gwas llafurus, gofalus, fu Gweirydd ym mhlas llenyddiaeth yn hytrach nag un yn meddu rhyddid mab yr awen. Fe ganodd Ap Vychan iddo yn 1864 fel un o'r "côr o lenorion" yng Nghyfarfod Llenyddol Ebenezer: Diguro ydyw Gweirydd,-pen y gamp Yw ein gwych Gymreigydd, Meistr perffaith ar iaith rydd,-a deddfau cân, Gwr yw, o anian, a gâr awenydd. (Gwaith Ap Vychan, argraffiad O. M. Edwards, t. 102).