Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ARWEINIOL. 127 Cymru. A chymeroedd ar hyd oes ddwfn ddyddordeb mewn pethau perthynol i Gymru. Yr oedd y Robert Williams y darfu i'w Gorff Diwinyddiaeth fygwth myned gyda lli'r hen Afon Lethe, ond a achubwyd am ryw hyd rhag y trychineb hwnnw, yn fab i'r William Williams Llandegai (1738-1817) a oedd yn awdwr yr Observations on the Snowdon Mountains (1802), yntau'n llyfr nid cwbl anenwog, ac wedi ei achub hyd yn hyn gerfydd croen ei ddannedd rhag yr unrhyw alanas. Ac yr ydoedd yn dad i'r Robert Williams (1814-1902) a oedd yn berson Llanbeulan, Môn, awdwr pre- geth a dynnodd sylw ar y pryd ar adfywiad yr eglwys yng Nghymru (1853). Ni phetrusodd efe ddadlenu ysbryd partiol yn yr awdurdodau ynglyn â dyrchafiadau eglwysig. Fe'i dyrch- afwyd yntau yn y man yn ganon eglwys. Fe'i cyfrifid yn breg- ethwr grymus. Yn frodor o Fangor, fe'i haddysgwyd yn yr ysgol rydd. Yr oedd yr Observations, megis ei wyr y Canon, yn eglwyswr; a thebycaf peth, gan hynny, fod y Corff Duwin- yddiaeth felly. Rhydd hynny eglurhad pam yr aeth ar neilltu yn hanes Owen Thomas o'r ddadl rhwng y Calfiniaid a'r Armin- iaid, gan mai Wesleyaid ydyw'r Arminiaid eraill yn yr hanes; sef hynny ynghyda'r hyn a nodwyd am dano eisoes, nad ydoedd y llyfr wedi ei fwriadu yn ateb i neb neilltuol yn y ddadl, er, yr un pryd, mae'n ddiau, â'i olwg ar rediad y ddadl. Dywed Owen Williams y Waunfawr ddarfod i Robert Williams y Corff Diwinyddiaeth annog y Wesleyaid i adeiladu eu capel a oedd yno yn 1857, a'i fod yn gefnogydd llenyddiaeth Gymraeg i'r eithaf (Gemau Mon ac Arfon, t. 188). Dyfod i Fangor o Benmachno ddarfu Morgan Richards (Morgrugyn Machno) a'i frawd Thomas Richards y pregethwr (Hirael). Yr oedd y pregethwr yn wr a blaen ynddo, er na lynodd efe wrth y gwaith. Ni lynodd mo Morgan Richards ychwaith yn y Tabernacl, nac wrth unrhyw wasanaeth crefyddol cyhoeddus, debygir. Yr oedd yr elfen sosialaidd yn gref ym Morgan Richards, ac oddiar y safle neilltuol honno y barnai efe bawb a phob peth. Gwr yn hytrach dan y taldra cyffredin. ond yn llond ei groen ym mhob ystyr oedd y Morgrugyn. Dytt Llond ei groen fel afal Awst oedd Morgan Richards. prydweddol yr olwg arno, ac yn awgrymu i'r edrychydd wr digonol iddo'i hun. Heb fod yn dal yr ydoedd eto yn dalog. Nid oedd y tro a roddai iddo'i hun wrth gerdded mor amlwg