Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brodor o'r Felinheli oedd yr Hugh Jones a ddaeth yn un o brif fasnachwyr y brifddinas, ac a gyrhaeddodd y safle o uchel- sirydd. Aeth yn ol yn y byd, pa ddelw bynnag, cyn diwedd oes. Ar ochr Arfon i'r Fenai a gerllaw Pont y Fenai y preswyl- iai'r brodyr Robert a Richard Davies, er fod cylch eu dylan- wad yn bennaf ym Môn. Brodorion o Langefni. Fe enwog- odd Robert Davies (m. 1905) ei hun yn rhan olaf ei oes mewn haelioni ar raddfa eang. Fe gyfrannodd yn un swm £156,000 tuag at Genhadaeth Dramor y Methodistiaid. Gwr o ardymer nwythus, er nad heb gryn graffter meddwl. Am y darn meithaf o'i oes cyffelyb ydoedd i'r pren sinamon a'i risglyn yn werth- fawrocach na'i ruddin; ond yn y rhan olaf fe ymddihatrodd fwyfwy o'r rhisglyn, ac yn hynny fe achubodd ei gam. Bu Richard Davies (m. 1896) am dymor maith o 1868 yn aelod sen- eddol dros Fôn, ac yn ddiweddarach yn Arlwydd Raglaw. Gwr o urddas o ran golwg a dull. Yr oedd iddo ef a'i briod. ofal calon am yr eglwys Saesneg ym Mhorth Aethwy, a lletyent y pregethwyr tra rhedodd eu gyrfa ynghyd. Synnwyr ymar- ferol oedd ei nôd angen ef. Goroeswyd ef gan ei briod am lawer blwyddyn. Yr ydoedd hi yr unig un y ffynnodd eu plen- tyndod o blant Henry Rees. Hi fu'n dra ffyddlon i achos cref- ydd. Yr oedd tuedd ddyrchafedig amlwg i'w meddwl. Hi deimlai barch annhraethol i'w thad. Hi ddarllenodd yn eang, yn enwedig lyfrau ar grefydd. Yr ydoedd yn gynefin â'r Beibl ym mhob rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yr ydoedd yn hyddysg ym mhregethau ei thad. Dangosodd ofal mawr am y Jerseymen a fu yn preswylio am flynyddoedd ym Mhorth Aeth- wy, ac yn rhan olaf ei hoes yr oedd ganddi ddosbarth o wragedd yn y Graig. Yr ydoedd yn dra ffyddlon i'r Ysgol Sul. Hi gafwyd ar amrywiol weddau bywyd nid yn annheilwng o goffad- wriaeth ei thad; a dengys ei gofiant ef fod ganddo syniad uchel am dani. Crydd wrth ei alwedigaeth oedd yr Hu Eryri y dyfynnwyd o'i gân ar yr Aber, a brodor o'r lle. Mae teimlad tlws mewn mannau yn y gân, a llinell neu ddwy â chyfaredd ynddynt. Mae Owen Jones yn ei Gymry yn rhoi'r gân yn gyfan, wedi ei chodi ganddo o Frython Silvan Evans. Hysbysa Owen Jones na ŵyr ddim am yr awdwr. Dyma nodiad arno gan Mr. R. J. Hughes (Llanfairfechan): "Hugh Hughes oedd enw priodol Hu Eryri, neu Hw Eryri fel y gelwir ef weithiau, neu Huw'r 9M