Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Syml yw ffurf y cathedral er yn gymesur. E fyddai cloch y cathedral yn gwneud argraff ar deimlad Evan Jones Moriah. Yng nghyfarfod gweddi'r prynhawn yn amser y diwygiad, fe sylwai ar un tro ar yr awr weddi, ac ar gloch y cathedral yn galw at yr awr weddi, a dywedai fod hynny yn beth effeithiol iawn arno ef. "Y gloch yn canu at gosper ers mil o flynydd- oedd! Pan fyddaf yn clywed cloch yr hen gathedral yna'n canu, mi fyddaf yn dweyd wrthyf fy hun,-Mae hon yn canu yn gyson, yn ddifwlch ers chwe chant o flynyddoedd! [Nid ydoedd efe yn sicr am yr amser, mae'n amlwg. Tebygir fod y canu hwn yn hŷn na Gwilym y Concwerwr o lawer, a diau mai am ei amseriad ef yr oedd y llefarwr yn caffio ar y pryd, gan yr arferir dweyd mai efe drwy orchymyn a gychwynnodd y canu hwnnw. E fernir, pa wedd bynnag, mai cefnogi'r arfer yn unig a ddarfu ef, a bod yr arfer ei hun wedi cychwyn ym- hellach yn ol hyd yn oed na'r mil blynyddoedd crybwylledig.] Pan dynnwyd yr hen gloc i lawr, yr oeddwn yn ymofyn â mi fy hun, tybed y peidiai'r gloch a chanu? ond na, cenid y gloch yr un fath o hyd ar yr awr weddi." Yn y fel hyn y clywir darstain clych amser mewn mangreoedd annisgwyliadwy. Ar ryw ddiwrnod rhew fe glywodd gwr o Lanuwchllyn swn clychau filoedd yn codi o Lyn y Bala, sef clychau aur ac arian. Ar noswaith serch fe glywodd gwr o Langollen, yn ymadrodd mwys ei anwylyd, gloch Paradwys yn toncio ei gwiwlwys alwad oddiar uchel dwr y lleuad lwys. Yn y fel yma odditanodd ac oddiarnodd y clywir uchelsain clychau'r darfelydd yng nghalon dynoliaeth. Ond ar ryw ddiwrnod i ddod fe welir Plant y Bryniau yn myned i mewn i Gaersalem yng ngwisgoedd llaesion yr Adenedigaeth, yn swn holl glych y greadigaeth yn canu croesaw. A chlywir holl glych y Ddinas yn canu drachefn o wir lawenydd. Eithr fel rhyw ragbrawf o hynny, ond odid na chlywir clych Dinas Bangor, wedi eu hadnewyddu erbyn hynny, yn canu galwad i'r Cymun Bendigaid i holl Blant Duw o fewn y fro. Nid odditanodd y clywir y clych hynny, nac ych- waith oddiarnodd eto, ond clychau aur pur godre mantell yr Archoffeiriad a fyddant, wedi eu rhoddi rhwng y pomgranadau, cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre y fantell o amgylch i weini ynddynt. Ond er mai mantell y weinidog- aeth a fydd, uwch ei phen e fydd y goron sanctaidd, ac yn ys- grifenedig arni ysgrifen fel naddiad sel,-Sancteiddrwydd i'r Arglwydd.