Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynnen yn dra helaeth, a diweddu gan ofyn iddo yntau roi cyngor iddynt. "A gymeri di gyngor?" gofynnai yntau. Cymeraf," ebe hwnnw. "A wnei di ef wedi hynny?" "Gwnaf." "Wel, ynte, taw â dy siarad," y taw yn dra phwysleisiol. Medrai efe lonyddu terfysg yn y modd yna. Yr ydoedd yn wr o nodweddiad uchel, a dylanwad arbennig ganddo ar ddynion ieuainc ymofyngar am wybodaeth ac arweiniad. Fe ddenodd rai felly i'w gorlan ei hun o gorlannau eraill, er â dylanwad eithaf têg. Ymhlith y lliaws a ddaeth yn ieuainc o dan ei ddylanwad yr oedd y Dr. John Thomas, y Dr. David Roberts a'r Parch. W. Ambrose. Meddai'r ddawn i ennill dynion. Fel y teithiai ar un tro mewn cerbyd âg amryw foneddigesau ynddo o'i gydnabod, fe oddiweddwyd Robyn Meirion, gwr ieuanc o dalent, a phregethwr y pryd hwnnw, yn cerdded ar y ffordd. "Robyn," ebe fe wrtho, "glŷn wrth y cerbyd yma." Neid- iodd Robyn i mewn yn wisgi, a throes hynny yn y man o bwys iddo ynglyn â manteision dysg. Fe ddywedir yn Hanes yr Eglwysi Annibynol ei fod ef yn annibynwr ar y fath fwyaf annibynol. Er hynny, yn ol Ap Fychan yn y Beirniad (1866, t. 357), gallasai'r Deon Cotton ddywedyd am dano na wyddai am neb ag yr oedd y geiriau, Wele Israeliad yn wir yn yr hwn nid oes dwyll, yn fwy cyfaddas iddo.

Fe ddaeth Ap Fychan (1809-80) i'r ddinas fel olynydd y Dr. Arthur Jones; ac efe, ac edrych arno o bob cyfeiriad, oedd, ar ol tymor y Deon Cotton, y dylanwad personol amlycaf yn y ddinas, cystal a'i fod yn un o bregethwyr hyotlaf a doniolaf Cymru yn ei oes. Yr oedd efe yma yn ystod 1855—73. Fe'i cymharwyd ef droion â Christmas Evans, nid heb achos. Gwr siriol, llon, fel Christmas Evans; ac, fel yntau, o ran corff yn gryf a thal a llydan a lled gnodiog; ac o ran meddwl drachefn, yn ddychmygol, cynyrchiol, arabeddus. Yr oeddynt, hefyd, yn debyg yn nhôn eu pregethau, gan fod y ddau yn ddiwinyddol, heb fod yn apeliadol eu dull; a'r ddau, hefyd, yn ansicr o ran barn a chwaeth. Fel Christmas Evans, e fyddai gan Ap Fychan aml ergyd chwareus effeithiol: "Ni welsom ambell un, ymlid llwynogod oedd eu gwaith ar hyd eu hoes—bytheiaid ddylsen nhw fod!" Fel yntau hefyd, fe wthiai ambell ddigrifwch hyd at y terfyn eithaf, megis wrth gymell casgl y genhadaeth ar ei gynulleidfa ei hun yn y Bala, yr adroddai sylw Hiraethog, fod pysgodyn ym môr Galilea wedi curo mwy na'r