Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gapten llong fawr; fe saif y llong, ond fe gleddir y llongwr, weithiau dan y las—donn, weithiau dan y las dywarchen—ni saif o ddim. Gosodwch ef yn dywysog mewn ymerodraeth ardderchog—ni saif o ddim. Gosodwch ef yn frenin dan goron berlog; dygwch ynghyd y colofnau adamant i'w gynnal; ceisiwch y meddygon goreu i'w wella yn ei afiechyd; chwiliwch am y meddyginiaethau prinaf a drutaf—ni saif o ddim. Efe a gilia fel cysgod, ac ni saif." E fyddai ganddo ambell syniad ar ddull eofn, hedegog: "Mi fum yn meddwl fod popeth ei bobl yn gorwedd yn y bedd gyda'r Iesu: bywyd, cyfiawnhad, a sancteiddhad ei bobl yn y bedd; y nefoedd gyda'i thelynau yn y bedd;—ond pan atgyfododd ef, fe gyfododd y cwbl gydag ef. Fe gyfododd i'n cyfiawnhau; fe gyfododd i'n bywhau;— fe gyfododd y Nefoedd ei hun gydag Iesu Grist." Yr oedd ganddo ryw ffordd o'i eiddo'i hun yn achlysurol o gymhwyso geiriau'r ysgrythur, megis pan ddywedai fod llawer yn achwyn ar yr hen ddaear yma, ond o'i ran ef fod ganddo eithaf meddwl o'r hen ddaearen, oblegid "pan fo fy nhad a fy mam yn fy ngwrthod, y ddaear a'm derbyn." Yn tynnu at ddiwedd ei oes, o fewn rhyw fis neu ddau efallai, ac mewn cyfeiriad at y gair huno yn y bymthegfed o I Corinthiaid, yn yr oedfa brynhawn yn y Bala, mi sylwai ei fod yn "disgwyl y byddai'r Brenin Mawr wedi llyfnhau dipyn ar y ffordd i mi tua rhydiau'r Iorddonen." A chwanegai fod y gair huno yn cynnwys deffro—deffro i ddydd o weithgarwch. Ac yna, yn sydyn braidd, ac â mymryn o gyffroad arno'i hun, peth allan o'r arfer iddo ef: 'Rwyf yn awr yn gweled drwy dynel tywyll marwolaeth—ddydd!—godiad haul o'r uchelder!—dydd a bery byth!"

Rhwng y Ddwygyfylchi a Llanllechid y treuliodd Tanymarian (1822—85) ei oes weinidogaethol. Bu'n weinidog Horeb, Dwygyfylchi, yn ystod 1847—56. Iddo ef y priodolir y bywiocau a'r dyrchafu a fu ar ganiadaeth yn yr ardal, ac yr oedd y dylanwad yn un arosol. Fe ddeffrodd chwilfrydedd cerddorol drwy'r lle A bu, yr un pryd, lwyddiant neilltuol ar ei waith ynglyn â'r ysgol Sul; a dichon bod cysylltiad agos rhwng y ddwy gangen yma o'i lafur. Yn Nhanymarian gerllaw Bangor y bu efe yn preswylio dros weddill oes. Golygodd, mewn cysylltiad â J. D. Jones Ruthyn, lyfr tonau, a golygodd Gerddor y Cysegr (1860) a'r ail ran o'r Llyfr Tonau ac Emynau (1879), a dylanwadodd yn fawr drwy gyfrwng yr olaf ar ganu cynull-