Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eidfaol Cymru. Efe oedd y cyntaf o Gymro i gyfansoddi oratorio, sef Storm Tiberias, a gyfansoddwyd ganddo yn 1852; a chyfrifir yn gyfansoddiad gwych. Yr oedd yn bregethwr o ddawn gynhenid nodedig. Yr oedd Robert Owen Tŷ Draw, mewn ymddiddan ar ryw dro, wrth siarad yn erbyn dynwared yn y pulpud, yn gwneuthur eithriad o blaid Tanymarian, yn gymaint a'i fod ef ar un cyfnod ar ei oes, wrth ddynwared John Jones Talsarn, "yn gwneud y peth yr oedd yntau'n wneud." "Os dynwared," ebe Robert Owen, "yna gwneud y peth cystal ag y bydd y neb a ddynwaredir yn ei wneud." Eithr fe ymwasgarodd gwawr gweinidogaeth Tanymarian ar y mynyddoedd, yn hytrach nag ymagor i anterth dydd. Rhedodd ei feddwl yn fwy yn y man ar gerddoriaeth, a chlywid ef yn adrodd Pero mewn cyngherddau. Ac wedi'r cwbl, dangos y mae yntau fod yn rhaid ymddeffro o'r tumewn, ac nid dynwared, pa mor ddawnus bynnag, o'r tuallan.

Ysbigyn cyntaf Wesleyaeth yn y ddinas oedd pregethu John Maurice, 1802-3. Ar ben clawdd yn Lon y popty y traethodd efe ei genadwri gyntaf. Yn 1804 fe ddechreuodd John Maurice bregethu oddiar garreg farch wrth ddrws y Virgin; a'r un flwyddyn dechreuodd John Hughes bregethu oddiar ben y grisiau yn y Virgin wrth y ffenestr i'r gynulleidfa yn y buarth. Abraham y Wesleyaid ym Mangor oedd William Roberts, ebe Syr Henry, canys yr oedd ei ffydd yn gref heb nemor ragolwg cyflawniad. Aelodau'r seiat gyntaf oedd William Roberts a'i ddwy chwaer, a sefydlwyd hi yn 1805. Yn 1808 adeiladwyd capel. Pan adawyd Lon y popty gan y Methodistiaid yn niwedd 1820 fe'i cymerwyd gan y Wesleyaid. (Y Tabernacl, t. 57.) Darfu'r Wesleyaid gychwyn yn Llanfairfechan yn 1827, a chodi capel gryn lawer mwy nag un y Methodistiaid yn 1829. Cawsant dir i adeiladu gan Syr Richard Bulkeley ar yr amod eu bod yn gorffen gwasanaeth fore Sul erbyn 11, er mwyn i'r gynulleidfa fedru myned i'r eglwys.

Yr oedd Thomas Aubrey (1808-67) yn y ddinas yn ystod 1852-4 ac 1857-9. Fe'i cyfrifid gan rai fel siaradwr goreu ei oes yng Nghymru. Mae'r traddodiad am ei hyawdledd yn aros ym mhob man lle cartrefodd. Gallesid tybio oddiwrth enghreifftiau achlysurol a glywir mewn ymddiddan fod ei iaith