Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyny. Delwedd y nodweddiad: grym gweithrediad yn hytrach na sail foesol gadarn gryf. Rhaid cofio am ei esgidiau hefyd, canys yr oeddynt hwy, yn ol ei gofiannydd, H. W. Hughes, Caerfyrddin, yn gyfryw y gallesid eu gwarantu unrhyw bryd i amgylchu'r ddaear. Os felly, nhwy ragorent hyd yn oed ar esgidiau Thomas Coryat, a gerddodd ynddynt fil o filltiroedd heb eu gwadnu ond unwaith, esgidiau, hefyd, ag yr oeddis yn eu dangos yn eglwys Odcombe yng Ngwlad yr Haf am ddwy ganrif. Yr oedd digon rhaid i Thomas Rhys Davies wrth yr esgidiau hynny gan gymaint yr alwad arno i bregethu. Ac wedi'r cwbl, nid ydoedd heb ei gryfder amlwg, yn foesol ac fel arall. Galwyd ef yn "lleidr" gan Owen Thomas, ac yntau'n edmygydd mawr ohono, mewn cyfarfod pregethwyr yn Nerpwl, am iddo, yn union wedi clywed pregeth gan John Elias, roi'r bregeth ei hun fel y clywodd hi, a hynny, fel y dywedid, "agos â chymaint dawn." Ond os nad oedd ei ddawn traddodi yn llawn cymaint ag eiddo Elias, yr oedd ei ddawn i gynhyrchu. meddyliau, pan fynnai, yn fwy. Meddai ar lygaid agored, llym, gwreichionllyd; a phrydwedd cryf a chwareusrwydd yng nghongl ei enau ac awdurdod yn ei wedd, ynghyda dullwedd hynaws, boneddig. Yr oedd ei lais yn gryf a soniarus. Fel pregethwr, gallai estyn swyn dros gynulleidfa a'i dal yngafael ei ddylanwad, pa bryd bynnag y llefarai, ac ar ol pwy bynnag. Yr oedd yn ei lygaid ddylanwad gwefreiddiol dieithrol, a meddai, fel Hiraethog, ryw amnaid neu hep i'w ben neilltuol iddo'i hun. Fe estynnai ei fraich, gan bwyntio â'i fys wrth roddi ei destun, nes ar dro syfrdanu braidd bawb yn y lle. Dyma ddawn y rhiniwr, neu'r hud hwnnw a weddnewidia bob gorchwyl, gan beri i'r galon ddawnsio mewn cynghanedd â phwnc y llefarwr. Fe ddywed ei gofiannydd y pregethai yr un bregeth weithiau i'r un bobl 15 neu 20 o weithiau, â'r hyder llwyraf o'i du ef, ac â'r blas mwyaf o'u tu nhwythau. Mae tystiolaethau. eraill i'r perwyl ei fod yn ddihafal yn y wedd yma arno. Nid am fod ei bregethau yn ychydig, oddieithr yn ei gyfnod olaf, canys fe gyfansoddodd liaws mawr ohonynt yn ystod oes. Rhyw hanner awr fyddai hyd y bregeth. Fe ymaflai ar unwaith ac o ddifrif yn ei orchwyl, neu'n "ddiastrus," ys dywed ei gofiannydd, "fel yr enwog Paganini â'i, grwth undant." Fe drinai bob adran o'r bregeth mewn ymadroddion cryno, blaenllym, weithiau yn bell-gyrhaeddol a disglair. A symudai