Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwawdlun creulon ohono yn yr Haul? Eglwyswr oedd. Brutus yn rhan olaf ei oes, sef ystod 1835-66. Meddai ar brydweddau nid anhawddgar, a bu'n gyfaill i Christmas Evans. Fe dynnodd lun doniol ohono ef yn ei Christmasia. O'r fron tuag i fyny yr oedd Brutus yn hardd fel benyw, a thuag i waered yn ymgilio fel cynffon pysgodyn yn llithrig a llipa.

Bu Lleurwg ym Mangor yn ystod 1846-8, wedi dod yma o'r coleg. Dawns y darfelydd oedd dawn Lleurwg.

Bu Charles Davies, Caerdydd yn awr, yma yn ystod 1870-7. Aeth oddiyma i Nerpwl. Pe wedi aros yma e fuasai ei ddylanwad yn gyfochrog ag eiddo'r Deon Cotton, heblaw y buasai ei gylch yn eangach. Tra yma y pefriai ei bregethau yn fwyaf gan feddyliau disglair. Yn araf fe ymgiliai yn fwy—fwy o gyntedd y cenhedloedd i'r lle sanctaidd. Ac fel y dywedai Ebenezer Morris am Ddafydd Parry Llangamarch y gallesid dywedyd amdano yntau, sef fod yr Arglwydd fel yn rhwym o arddel yr hyn a ddywedai.

Fe gyfleir yma nodiad y Tad Quinn (cyfieithiedig): "Y Parch. Edmund Carbery oedd yr offeiriad sefydlog cyntaf a fu ym Mangor. Daeth efe yma o Gaer, a chychwynnodd yr eg lwys oeddeutu 80 mlynedd yn ol [sef o 1921]. Ar ol bugeiliaeth ffrwythlon fe ddychwelodd i Gaer a gwnaethpwyd yn Ganon yn esgobaeth yr Amwythig. Dilynnwyd ef gan Wyddel, sef y Parch. Edward Mulcaby, a fu'n rheithor am 15 mlynedd, ac a fawr gerid gan ei bobl. Bu farw yn 1847 yn ei 42 mlwydd o dwymyn a afaelodd ynddo yng nghyflawniad ei ddyletswyddau cysegredig. Bu yma offeiriaid eraill. Gan ei bod yr unig eglwys Gatholig o fewn cylch mawr, fe ddeuai yma liaws ynghyd. Bu Daniel O'Connell, rhyddhawr ei wlad, yn fynych yn addoli o fewn y muriau. Offeiriad arall a gludwyd ymaith gan y dwymyn ym mlynyddoedd cynnar ei weinidogaeth oedd y Tad Coleman. Darfu i'r Tad Maloney, a wnaethpwyd wedi hynny yn Ganon yr Amwythig, ennill edmygedd ei ddeadell yn ystod tymor byrr ei swyddogaeth yma. Yr oedd y Tad Ratcliffe, wedi hynny yn Brofost Cabidwl Menefia, yn rheithor yma Mai 12, 1898, pan ddyrchafwyd Perigloriaeth Cymru i safle Esgobaeth Menefia, a chofir yn dda am dano. Rhoes ef ei egnion i'r ysgolion. Yr ydoedd yn gerddor