Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno. Paradwys fuasai Cymru i Richard Warner pe gallesid ond ei chanmol am ei gwelyau. "A chennym lawer o amser ar ein dwylo, ni godasom yn fore, ac wedi cuddio o'r golwg frecwast rhagorol, ni droesom i'r dref. . . . . Gadawsom Gaernarvon tua naw ar y gloch, gan ddilyn y ffordd dyrpeg i Fangor, ag mae'r olygfa oddiarni, ar y naill ochr a'r llall, er mor wahanol, eto yr un mor hynod; ar y dde y mynyddoedd uchelfryd, ar y chwith y Fenai glos. . . . . Un o foreuau Ossian ydoedd, a chawswn yr olygfa amrywiol yn ei holl degwch. Y bore a ddychwelodd â llawenydd. Fe amlygai'r mynyddoedd eu pennau llwydion; a wynepryd y weilgi a wenai yn ei wyrddlesni. A gwelir y donn frigwyn yn ymdaflu gylch y graig acw.' Fe barhaodd yr olygfa hyfryd am bum milltir, pan ddiflannodd y Fenai am ennyd gan ysgubo yn sydyn tua'r gogledd. Ond os colli'r afon o'r pictiwr, ennill rhyw ddernynnau arddunol eraill, megis y Penmaenmawr aruthr ysgythrog, gorynys anferth y ddau Orme, ac Ynys Puffin gylchog, serth. A thref fechan, ddestlus Bangor hefyd [oddeutu 80 o dai oedd yma yn 1792 yn ol N. Owen yn ei lyfryn ar y sir], a'i golygfeydd rhamantus o'i deutu, a adawai argraff ddymunol arnom fel y disgynnem i waered tuag ati. A dyma dafarn fechan nêt odiaeth, dan arwydd y Three Eagles i'n denu. . . . Wedi hanner awr o orffwys ni aethom i rodianna tua'r cathedral. . . . . Mae'r esgob sydd yma'r awron [sef John Warren, i'w wahaniaethu oddiwrth y deon o'r un enw], â haelioni mawr, wedi ei gwbl atgyweirio mewn dull syml a destlus. Mae efe, hefyd, wedi trefnu cynnal gwasanaeth yn y ddwy iaith yn fwy ar wahân, y naill yn y bore a'r llall yn y prynhawn. . . . . Ni adawsom Fangor â theimlad cryf o'i phlaid, gan na welsom erioed le o fewn cyn lleied cylch yn cyfuno cynifer cyfareddion. . . . . Chwaneger at hynny ei bod yn un o'r trefi rhataf am fywiolaeth o fewn y tair theyrnas. . . . . Gan ddilyn y tyrpeg i Gynwy am dair milltir ni droesom i Barc Penrhyn. Yn fuan ni dynasom at Benmaenmawr anferth, ac a ddechreusom ddirwyn ein ffordd i fyny ei lethr enbyd. Wrth gripio oddeutu ei lethr fe ymddengys fel yn crogi yn yr awyr â'r clogwyn cuchiog serth oddiarnodd a'r dibyn serth yn union ar oriwaered. Annichon i'r teithydd beidio âg ofni rhag ei gladdu dan genllif o glogwyni. Fe ddigwyddodd cwymp ar y