Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi af i Lan Beris Ddydd sul nesa,
Oni ddaw Llan Beris yma;
Llawer haws i mi fynd yno
Nag i Lan Beris fawr symudo.

Pe bae'r Wyddfa i gyd yn gaws,
E fyddai'n haws cael enllyn;
A Moel Eilia'n fara gwyn
A'r Llynn yn gwrw melyn.

Nid yw'r pennill sy'n clymu â'r olaf ganddo.

Fe ddywed y gallesid canfod ym mhob tŷ bedol march neu groes neu ynte ryw swynoglyn neu'i gilydd yn erbyn ysbrydion niweidiol, ac ar noswyl Ioan Sant y dodid o flaen drws y tai y llysieuyn câs gan gythraul. Ond nid oedd y pethau hynny, erbyn ei amser ef, mor gyffredinol ag y tybiodd John Evans ychwaith.

Fe ddywed, hefyd, y gallai fod mwy o ysbryd defosiwn o'r tuallan i'r eglwys sefydledig nag o'i thumewn. A chwanega y gwyddai am bregethwr yn ymseibio ar ganol pregeth hyd nes yr ae cynnwrf y gorfoledd drosodd; ond na welodd ddim o'r ymdoriadau anweddus y sonia gelynion crefydd am danynt. Ac nid gelynion crefydd yn unig a soniai am hynny, ychwaith, ond proffeswyr crefydd yn yr eglwys wladol ac mewn rhyw enwadau ymneilltuol go ddinôd. Gellir gweled ymosodiad penderfynol ar orfoleddu y cyfnod hwnnw gan lygad-dyst ohono, er na wyddis am ei safle grefyddol, yn y Cambrian Register, 1799, t. 430.

Daeth De Quincey heibio Bangor ar dramp yn 1802, yn llencyn 17 oed, fel yr adroddir ganddo yn yr Opium-eater. Bu am rai wythnosau yn lletya yn nhŷ Saesnes, a oedd yn ddiweddar wedi bod yng ngwasanaeth yr Esgob Cleaver. Pan glywodd yr esgob am y lletywr dieithr, fe roes y wraig ar ei gwyliadwriaeth rhag twyllwyr, ac wedi deall hynny aeth De Quincey ymaith ar yr un diwrnod mewn tymer ddrwg, neu ynte gallasai fod wedi aros am ysbaid gryn lawer yn hwy, a buasai rhyw bethau wedi eu cofnodi am yr ardaloedd hyn a arosasai mewn coffadwriaeth. Ymaith âg ef ynte ar ei draed i Gaernarvon, ond ni chafodd yno lety wrth ei fodd. Cwyna ei golled am y llety rhad ac yn disgleinio gan lanweithdra yn y ddinas. Oddieithr hynny, fe ddywed mai ychydig o ddim i'w atynu oedd