Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ais y ffordd sy'n ysgubo gyda glan y môr i gyfeiriad Penmaenmawr. Yng nghorff y prynhawn, tra'n sefyll ar godiad tir er ystyried llun a phrydwedd y wlad, mi welwn yn y pellter enfys mawreddus yn estyn ei hyd porfforaidd o lan i lan. Yr ydoedd yn olygfa o ogoniant. Y cyferbyniad rhwng y bwa amryliw â'r dyfroedd tywyll, eglurder pefr y wybr oddiarnodd a disgleirni'r heulwen yn gorffwys ar y bryniau o amgylch, ac amryw brydwedd yr olygfa agos, a ffurfiai ynghyd olwg mor ardderchog, nas gall y teithydd ym mharthau mwy mawreddus y Valais neu Savoy ond anfynych fod yn dyst o ddim mwy arddunol..... [Dyma ni bellach ar lethr y Penmaenmawr.] Yr ydoedd yn nosi yn hyfryd. Fe grogai cymylau uwchben môr a thir wedi eu trwytho beth â thrydan; ac o bryd i bryd yr oedd yma fflachiadau disglair, heb daranau, yn goleuo'r ffurfafen, gan ddangos am darawiad amrant lun y cymylau, a chan wneuthur i wyneb y weilgi ddisgleirio. Yn achlysurol, ar drem y llygad, wrth y goleu diflanedig hwn, fe geid cipolwg ar y creigiau duon, crôg, yn ymestyn uwchben y ffordd, a chyfrennid iddynt garictor o aruthredd prudd na buasai ond ofer i mi wneud ymgais i'w ddisgrifio. (viii. a x.)." Hyd yma Roscoe.

Yn ymnythu yn y coed gan amlaf, yn enwedig ar ochr Môn, fel llygadau yn cil-edrych allan o'r gwyll, y mae palasau hardd-wych. Ni wyddis gymaint am ba beth a welid allan o'r llygadau hynny, pa ryfeddodau a ymrithiai ger gwydd yr edrychwyr? Y peth a wyddis oreu am danynt at ei gilydd ydyw fod yr addoldai yr adroddir eu hanes yma yn ddolur llygad i'r bobl a breswyliai ynghanol y fath wychter palas a golygfa, fel, lle gellid, na chaniateid iddynt ymddangos o gwbl. Bernid yr addoldai hynny ganddynt hwy; fe'u bernir hwythau gan yr addoldai. Mewn bwthyn yn hytrach na phalas ar lan y Fenai y preswyliai Dafydd Jones, canys nid gwiw mo'i deitlo'n Barchedig yngolwg y bobl y soniwyd am danynt, ac yn hamdden glân ei feddwl a syllodd ar yr olygfa amrywiol, gan ei throi yn ddrychau yn adlewyrchu yr eidea ysbrydol yn y naill lun arni neu'r llall, yngwydd torfeydd o bobl, nes teryllu eu llygaid braidd wrth edrych, yn ol tystiolaeth Owen Thomas. Fe gipiodd Gwilym Cawrdaf beth o'r swyn:

Mewn mwyniant ym min Menai,
A'r drych yn dawel ar drai;