Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llall o'r graig. Anferth gynfas wenlliw y rhaeadr a'i swn aruthr, a'r rhwydwaith ariannaidd, a'r mynydd acw gerllaw a'r heulwen, a ä yn arafdeg, wrth syllu arnynt, yn un llun o ryfeddod a chyfaredd. Canys yma yr ydys mewn di nâd man ac heb lygad i aflonyddu arnom yngwydd y weledigaeth seirian. Yma mae bendith eu mamau mewn rhwysg anweledig ond i'r llygaid serol, a melldith eu mamau ar ffo. Yma mae'r petruster aflonydd wedi llwyr lonyddu ar wyneb llyn yr hûn fewnol, a chuwch y demon daearol wedi peidio yngwydd gwyndra arall fyd, yr arweiniwyd ato drwy'r ceunant a hyd lan yr afon, y'n gollyngwyd atynt drwy aber y gwyn gregin, gan adael traeth y lafan o'r tu ôl. Yma y sefir, yn nrych yr olygfa, yngwydd yr enaid dibetruster, ac yngwydd angylion gwynion daear a nef. Effaith y cyffroad yn eigion meddwl dyn a barodd galanas y Chwyldroad Ffreinig oedd fod golygfeydd mawreddus yn ym- hoewi ac yn ymsirioli. Prin bellach y cymhwysai neb y gair du, yn yr ystyr o brudd-der tywyll, at y rhaeadr, megis y gwnaeth hen brydydd at Raeadr yr Aber, debygir.

Wele lun crychlyn, crochlais,—heb osteg!
Dau bistyll echryslais,
Llun rhaeadr, treiglad rhwyglais,
Du gwyllt, sy'n codi gwallt Sais.

Er hynny, nid yw'r demon yntau heb ei loches o hyd yng- hanol yr arddunedd; a bu unwaith ym Mhwll Ceris yn gryn arswyd, megis y tystia'r hen bennill:

Pwll Ceris dyrys dryd,
Pwll embyd i'w, pwll ymbyd,
Pella o'i go o'r pylla i gyd.

Heb ofal nid yw'n ddiberygl i fadau a llongau bychain, sef pan gyferfydd y ddau lanw o ddau pen y Fenai. Ei loches sydd rhwng y ddwy bont. Lle gwylia'r angel yno y llochesa'r demon. Yn ol Swedenborg, fe gerdd yr angel drwg o dan y dwfr â'i sawdl ar y wyneb, yn wrthdroed i'r angel da oddiar- nodd.

Cyrchiad mawr dyniad môr donnen ffyrnig,
Uffernol i fadau;
Ceris bwll, brith croesbwll brau,
Hallt cryg yn hollti creigiau. (Gruffydd Edwards).