Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lethr y Penmaenmawr o bryd i bryd, fel y gwelwyd yn adroddiad Warner hefyd. Eithr erbyn canol y ganrif o'r blaen yr oedd bwgan llethr y Penmaenmawr wedi diflannu. Fe wnaeth y ffordd haearn dramwyfa iddi ei hun drwy ganol y graig, a dyna fuddugoliaeth ar yr Apollyon a oedd yn croesgamu llwybr y llethr.

Fe dywynnodd aden Angel y Fenai yn ei hysgydwad yn ymenydd Thomas Telford, ac eglurwyd cynllun Pont y Fenai fel llwybr troed a cherbyd. E fu eisoes ryw ymwrwst ar ymenydd Robyn Ddu yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg: Dwy flynedd cyn Aflonydd Pont ar Fenai fydd. Yn yr Aelwyd isa yng Nghymru y preswyliai Robyn Ddu, sef bwthyn ar gwrr gorllewinol plwy Bangor gerllaw'r Fenai. Pa beth ydoedd yr Aflonydd a wys? Ond o'r diwedd dyna fflachiad diameu disymwth; ac yn 1819 cychwyn ar y gwaith o adeiladu'r Bont, ac erbyn 1826 ei orffen. Trefnu i gerbyd pôst Caergybi fyned dros y bont ar Ionawr 30. Hwn ydoedd yr agoriad bythgofiadwy. A bys y gloch yn union ar bum munud ar hugain i ddau yn y prynhawn, dyna glec chwip Dafydd Dafis, gyriedydd pôst Caergybi, yn peri i'r meirch garlamu; a chwibaniad uchel y gwyntoedd, yr hir gofiwyd am dano, sef clec chwip Angel y Fenai, yn cydateb, gan gyhoeddi cydrhyngddynt fod y fantol yn dechre troi o blaid Dinas Fangor ac yn erbyn Prif Gaer Arfon. Oddiarnodd ac oddiuchod y penderfynir pa fodd y try y chware. O fewn llai na dwy filltir yr oeddis oddiwrth y ddinas, tra'r oedd saith oddiyno i'r brif dref. Yn y fel hyn y cysylltwyd Môn yn agosach â Bangor fel tref fasnach. Ar ol hynny y dechreuodd y dylanwadau mwy ysbrydol ddylifo tua Dinas Ffawd. Daliodd y bont o bryd i bryd brawf chwythymau corwyntoedd arswydlawn. (Pamphled y Dr. Pring yn 1828, dyfyn, yn y Gossiping Guide to Wales am 1878, t. 185. Cambrian Quarterly Magazine, 1829, t. 227).

Dyna yn y bont gróg wyrth celf, ar unwaith yn rhyfeddod o gryfder ac yn rhyfeddod o brydferthwch. Cyffro nid ychydig o'r herwydd, a chynnyg gwobr erbyn eisteddfod Beaumaris yn 1832 am dorch o englynion yn rhoi mynegiad i'r gyf- ryw ryfeddod. Mawr y cystadlu! A chyfansoddwyd englynion i'r amcan ar wahân i'r cystadlu hwnnw. Dyma ddwy englyn allan o gannoedd: