Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

myned ddim ymhellach. A oes yma dafarn,' ebr fi. 'Oes,' ebr yntau, chwi a'i cewch ychydig ymhellach ar y llaw dde.' "Dowch am ychydig gwrw,' ebr fi. Na,' ebr fo. 'Paham? mi ofynnais. Rwyf yn ddirwestwr,' ebr fo. 'Aië,' ebr fi, ac wedi ysgwyd ei law, a diolch iddo am ei gwmni, a chanu yn iach iddo, mi aethum ymlaen. Efe oedd y cyntaf i gyd o'r frawdoliaeth honno a gyfarfum erioed na fynnent rodresu eu hymataliaeth a'u hunan-ymwadiad. . . .

"Wedi dyfod i dref wedi ei goleuo ac yn llawn pobl, mi ofynnais i un o dwrr o fechgyn ieuainc am yr enw. Enw ysgrythyrol,' ebr fi. 'Bethesda,' ebr yntau. Aië,' ebr fo; wel, os ydi'r enw'n ysgrythyrol, mae arferion y bobl yn ddigon pell o fod felly.' [Tebyg mai rhyw achlysur ydoedd pan oedd mwy o dwrr o bobl nag arfer yma, a mwy o dwrf.] Ychydig tuhwnt i'r dref mi welwn wr yn dyfod allan o fwthyn, a chydgerddodd â mi. Yr oedd basged yn ei law. Mi gerddais yn gyflymach; ond anferth o gerddwr oedd y gwr, a chadwodd wrth fy ochr. [Broliwr mawr o'i gerdded, yn ei ffordd ei hun, oedd Borrow.] Ymaith â ni ochr yn ochr, am filltir a mwy heb yngan gair wrth y naill y llall. O'r diwedd, gan wthio fy nghoesau ymlaen, yn ol yr arfer Barclayaidd ddiledryw, mi aethum tuhwnt iddo ryw ddegllath, ac yna gan ei wynebu mi chwarddais, ac a siaredais wrtho yn y Saesneg. Mi chwarddodd yntau a siaradodd, ond yn y Gymraeg. [Tybed i'r Cymro glywed gan wr ar farch fod rhyw gerddwr dihafal ar y ffordd, a'i fod yn medru Cymraeg, ac yntau am ymorchestu âg ef?] Yna ni aethom ymlaen fel brodyr, gan ymddiddan, ond eto gan gerdded o nerth y carnau. Mi ddeallais wrtho mai garddwr marchnad ydoedd, a bod ei breswyl ym Mangor, a bod Bangor dair milltir oddiwrthym. . . . [Wedi cyrraedd Bangor] mi ysgydwais law â'r garddwr marchnad caredig chwe milltir yr awr. . . .

"Fe ddarfu i ddau wr hynod iawn daflu math ar lewyrch ar Fangor drwy breswylio ynddi, sef oeddynt hwy Taliesin yn yr hen amser ac Edmwnd Prys mewn amser cymharol ddiweddar. Yr oedd y ddau yn feirdd. . . .

"Mi aethum i Gastell Beaumaris, ac wedi dringo i ben un o'r tyrau, mi edrychais allan ar y bau, a glannau creigiog ardderchog y pentir i'r de-ddwyrain tuhwnt iddo, y Penmaenmawr cawraidd yn ddernyn hynotaf o'r cwbl, sef terfyn rhes o