Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dri ystad oddiwrth yr adail yma y mae dau Garnedd mawr, ac nid nepell oddiwrth un ohonynt y mae cylch meini bychan. Gerllaw y rhain y mae yna faen garw ar ei union sefyll, sef Maen y Campiau, ac agos ynglyn âg ef y mae carnedd a chylch bychan o ddeuddeg o gerrig. E fu yma yn sicr breswylwyr, canys o amgylch ym mhobman fe geir sylfeini adeiladau bychain. gwneuthuredig o gerrig crynion cyfaddas i foelni syml hen amseroedd. Yn wasgaredig mewn amryw fannau fe geir cerrig unionsyth bychain a niferi o garneddi bychain, ac olion ffordd wneuthuredig yn cyfeirio tua'r Gonwy. Pa beth bynnag ydoedd amcan y cylchoedd lleiaf, mae rheswm i gredu am y cylchoedd mwyaf, yn enwedig hwnnw gerllaw Maen y campiau, mai sircws Brydeinig henafol oeddynt [neu hŷn na hynny], ag mae'r Dr. Davies yn ei eiriadur wedi nodi 24 ohonynt. Eithaf tebyg y cynhelid eisteddfodau yma neu ynte mewn cyffelyb fannau. Yn ol traddodiad fe ymladdwyd yma frwydr waedlyd cydrhwng y Brythoniaid a'r Rhufeiniaid. Enillwyd y fuddugoliaeth gan y Brythoniaid, a chladdasant eu meirw o dan, y cruglwythi hyn er eu cadw rhag y baeddod gwylltion ag oedd yn lluosog y pryd hwnnw, ac hefyd er coffadwriaeth. O amgylch y carneddau mae amryw feddau â cherrig wedi eu taflu arnynt, a rhyw garreg fawr neu ddwy yn eu gorchuddio, y tybir eu bod yn feddau swyddogion." (Camden III, t. 189.)

Ond dyma atgofion hen glochydd yr Aber, sef John Parry, a fu farw tuag 1904, yn 87 oed. Mae ef, pa wedd bynnag, yn cychwyn ymhellach yn ol nag yr oedd ei hunan yn cofio. Fe grynhoir yr ymadrodd yma a thraw, ac aralleirir weithiau. Fe roir ambell nodiad gan Mr. Morris Thomas dan lythrennau cyntaf ei enw. "Yn 1712 daeth John Jones, D.D., i Aber, a bu'n offeiriad y plwy hyd 1718. Mab ac aer Plasgwyn, Pentraeth, ydoedd. Gresynodd wrth weled cyn lleied mantais oedd gan y tlodion i ddysgu darllen, a chododd ysgol Sul yma. Ond gyda'i fod yn dechre dyna ysgolfeistri ac ysgolheigion yn codi yn ei erbyn, gan haeru y torrai'r Saboth, gan mai celfyddyd oedd dysgu darllen a bod pobl yn cael bywioliaeth oddiwrthi. Er mwyn heddwch rhoes yr ysgol ar neilltu; ond rhoes gan punt ar lôg er talu am addysgu deuddeg o blant am ddau fis yn y naill ben i'r flwyddyn a dau fis yn y pen arall. I'r clochydd