Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r ysgolion dyddiol a oedd eisoes wedi eu gwreiddio fel athrawon yn yr ysgol Sul; a dywed mai'r ysgol Sul yw'r ysgol oreu o ddigon er llunio athrawon i'r ysgolion dyddiol. Fe genmyl gynllun y Gymdeithas Wladwriaethol, yn gymaint a'i bod yn cyfuno addysg Sulgwaith a dyddgwaith. Mae cynllun y Gymdeithas yn hyfforddi'r "dosbarthiadau isaf" ym mhopeth angenrheidiol arnynt er eu cyfaddasu i'w sefyllfa yn y fuchedd hon, gan eu paratoi ar gyfer buchedd well. Fe'u dysgwyd drwy'r cynllun hwn, yng ngeiriau Nehemiah, i ddarllen yn eglur yn y llyfr yng nghyfraith Duw, gan osod allan y synnwyr, fel y deallent wrth ddarllen; a thros ben hynny fe'u gwnaethpwyd yn hyddysg mewn daearyddiaeth ysgrythyrol, mewn sgrifennu ac mewn cownsio. Fe roir hergwd i gynlluniau diweddarach a llai eu gwerth, mor bell ag yr oedd y bobl ieuainc y sonid am danynt yn y chware, ag oedd yn hytrach yn cau allan bethau pwysicach y gyfraith. Yng ngeiriau'r Deon ei hun:

Away with graphy, logy, metry, science for the head,
And give me wholesome food to feed the mind and heart instead.

Fe gymerth y Deon y dyddordeb llwyraf yn ysgolion eglwysig y cylch yn ystod ei dymor maith o 52 mlynedd yn y ddinas. Arolygydd Didâl y geilw efe ei hun mewn un man, ac nid annheilwng ydoedd o'r teitl. Mae ei syniad yn hytrach yn sawru o addysg isel ar gyfer y bobl isel, mor bell ag yr oedd pynciau cyffredin yn y chware. Yn gymaint, pa ddelw bynnag, a bod buchedd well, yna caniataer i'r bobl isel addysg uchel, yn y pynciau perthynol i'r fuchedd honno. Ond chware teg i'r Deon, nid oedd neb a'i ofal yn fwy am bobl uchel ac isel. A deuai ei arabedd parod i'w gynnorthwy ym mhob cylch. Fe roir dernyn o'i waith yn y cofiant (t. 127), a baratowyd ganddo ar gyfer yr ysgolion, ag sy'n enghraifft o'i ddawn i gyfuno addysg âg arabedd. Mae cyffyrddiadau mwy difyrrus yn y dernyn, ond cymerer yr enghraifft yma:

The Country of Wales has twelve Counties to name,
Six Northern, six Southern, in number the same;
On three sides you will find it wash'd by the mane,
And the fourth bounded close by England's fair plain.
If you'll hear all my song,
And it shall not be long,
We'll visit them all in their turn.