Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cof gennyf am ryw Gân y Gigfran ar ei Theithiau a ddysgodd inni. Ymhlith rhyfeddodau eraill gwelodd y gig- fran Gaercystenyn:

Hon sy ddinas gaerog
Wedi'i gweithio'n dair conglog.

Hi fu'n hedeg uwchben Gwlad Canaan:

Y mae ffordd Nasareth hithe
O Gaersalem siwrne dridie.

"Hi ddywedai mai Abram yng ngwlad Caldea oedd dy- feisydd yr a, b, ond mai Moses a'i trosodd i'r Hebraeg. Ac yr oedd ganddi ryw rigwm Saesneg i gadarnhau hynny:

First Moses Hebrew letters did invent,
Syriac and Caldee Abram without doubt.

Pa un bynnag a gytunai ysgolheigion diweddar ai peidio.

Hi soniai am ddrych yn dangos y pell yn agos, a drych yn dangos yr agos ym mhell, a drych yn dangos pethau i fyny tuag i waered, a drych yn dangos pethau i waered tuag i fyny, a drych yn dangos peth mewn gwahanol luniau, a drych yn dangos peth mewn gwahanol liwiau, a drych yn dangos peth nid o'i fewn ond megis yn crogi yn yr awyr oddiallan, a drych yn llosgi peth mewn pellter oddiwrtho, a rhyfeddach na'r cwbl ddrych na ddangosai ddyn iddo'i hun ond a ddangosai iddo ddyn arall.

"Wrth ein cymell i beidio â bod yn greulon wrth yr asyn, a oedd yn amlach yn y parthau hyn y pryd hwnnw, hi ddywedai wrthym mai ar asyn y marchogai Abraham tad y ffydd- loniaid; a phryd na welid mo'r angel gan Balaam y proffwyd y gwelid ef gan yr asyn; ac mai'r asyn a ddewiswyd yn dyst o eni'r Iesu; ac mai ar ebol, llwdn asen, y marchogodd efe yn fuddigoliaethus i Ddinas Dafydd. Ond nid gwiw ymhelaethu, er y gallesid adrodd pethau eraill yr un mor rhyfedd. "Yr oedd ei dull siriol a byw, a'r tro dawnus ar ei thafod cystal ag ar ei llygaid, yn cynorthwyo er gyrru'r wers adref. Yng nghanolddydd einioes, yr ydoedd, yn nghwmni cyfeillion, yn llawn difyrrwch afiaethus, ac ar brydiau yn gallu creu digrifwch cyffrous a thrystiog ac annisgwyliadwy, fel henwrach mewn gogr. Huna'n dawel, ô athrawes gyntaf maboed!" Hyd yma'r gwr na fynn i'w enw mo'r ymddangos.