Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drosof fy hun, am bopeth yn dwyn unrhyw berthynas pa bynnag a'r hanes ar unrhyw wedd arno.

Darfu i Mr. W. T. Williams, y blaenor yn Beulah, fyned drwy'r Goleuad i mi, gan nodi'r rhifyn a'r tudalen lle'r oedd unrhyw fanyn a ddygai berthynas âg amcan yr hanes hwn. Mae'r Arweinolion yn y cyfrolau hyn wedi eu bwriadu i gyfleu'r hanes ar weddau gwahanol i'r hyn a geir dan enwau'r eglwysi eu hunain. Fe ddisgwylir eu bod yn lleoli'r hanes, nid yn unig yn ddaearyddol, ond hefyd yn ddeallol a moesol a chrefyddol, drwy gyfrwng awyrgylch y golygfeydd, ac yn y cyfeiriadau at ddynion nodedig a sefydliadau addysg a'r wasg a hen draddodiadau a symudiadau moesol, ac yn hynny a roir o hanes enwadau crefyddol eraill.

Gweler, hefyd, y Rhagair i bob un o'r tair cyfrol blaenaf o'r hanes.

W. HOBLEY.