Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwlad arall. Nid oes neb yn netiach a all ddwyn ymaith asyn Siencyn Benhydd druan odditano pan yw ef yn cysgu, gan adael march cynfas yn ei le, er gofid a thristwch anaele i Siencyn druan; na neb ychwaith mwy annioddefus o unrhyw driniaeth ddiflas tuag ato'i hun na Gilfaethwy. Drwy'r cwbl, nid oes modd coledd unrhyw deimlad creulon at Gilfaethwy, gan mor ffraeth a dawnus ei hunan-amddiffyniad. 'Mae Ffawd yn erbyn y pennau goreu o hyd,' ebe Gilfaethwy yn y ddalfa. Mae hi'n erbyn llen-lladron,' ebe swyddog y llywodraeth. A dyna'r Arch-ddewin Daw, hefyd, ar ei farch brith- liw! Hyd yn ddiweddar y cynghaneddion a chwyrliai o am- gylch blaen ei bicell ef fel cylion Gorffennaf. Ond yn awr dyma'r cydseiniaid, dwbl a sengl, yn bygwth dwyn eu lle, ac fel cylion mwy a ffyrnicach yn dechre traflyncu'r cylion llai a lled ddof. Bid a fo, mae'r ysbrydiaeth newydd yn cipio Daw a'i farch ymaith fel fflach breuddwyd. Mae Ieuan Fynach wedi dewindabu'r Dewin ei hun, nes bod ei ymenydd yn chwyldroi, ac nid anaml y gwel y sengl yn ddwbl a'r ddwbl yn sengl gan y dylanwad pensyfrdan. Mor llwyr y gwelir rhai yn ildio'u hunain i'r dylanwad nes boddloni i'w rhwymo draed a dwylaw. Fel a'r fel y mae'r peth yn bod,' ebe nhwy, fel pe'n sôn am ddeddf sefydlog natur; a phan newidio Ieuan Fynach. ei feddwl ar y pwnc hwnnw, yr un fath o hyd y parhânt hwythau i sôn. A ddywed Ieuan Fynach yw deddf pob dewin. Difyr gweled Ieuan Fynach unwaith ac eilchwyl yn cipio'n ddidaro rhwng bys a bawd rhyw Wyneb y Delyn neu'i gilydd, gan roi cnipws iddo nes ei fod yn troi fel chwyrligwgan ar y bwrdd gerbron. Gallesid meddwl fod llawer dan ddylanwad y dŷb mai peth priodol i'r iaith Gymraeg ydyw llygriadau mewn sillebiaeth, a barnu wrth safon rheol wyddonol, a'u bod heb wybod mai hen gân ydyw'r iâs hon ynghylch newid yr orgraff ym mhob iaith y perthyn iddi unrhyw lenyddiaeth. I'r rhai y mae'r pwnc yma yn anghynefin, gellir cymell darllen ysgrif De Quincey ar Orthographic Mutineers. Barn efe mai ar bwnc yr orgraff yr ymwahanodd Sem, Ham a Japheth oddiwrth ei gilydd. [Beth bynnag am gywirdeb y farn honno, e fernir yn addas gwtogi'r ysgrifen dan y pen yma. Ymoroled y darllenydd ynghylch ysgrif De Quincey a'r cyffelyb, os mynn.]... A bytheuaid yr ysgol hefyd! Y gwir amdani am rai ohonynt ydyw, nad oeddynt yn werth, rhawnen ar