Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

faes hela hyd nes dodi pais Ieuan Fynach am eu gyddfau, ac yna nid oes na cheinach na chadno a ddianc rhagddynt. Gwarchod fi rhag ielpan y bytheuaid hyn! . . ." Ond rhaid rhoi pen ar y truth yma yn y fan hon. Fe wyddis yr esgusodir y gair yna, canys am yr ysgrifennydd, ni falia efe nemor am a ddyweder. Cofier fod a fynno'r orgraff, hefyd, â phwnc yr Arweiniol yma, canys ceisio cyfleu awyrgylch yr hanes a wneir mewn rhannau ohono. Ac mae helynt yr orgraff, wedi'r cwbl, yn arwydd o ryw ymweithiad mewnol ymhlaid y coeth a'r pur. Mae pob cais i ddeol y surwellt mewn cynghanedd â'r grym a bâr i'r glaswellt îr dyfu ar wyneb daear. Er hynny i gyd, eithaf tebyg ydyw, fel y sylwir gan y gwr a sgrifennodd y sylwadau uchod ei hunan, na chyfrifir gan liaws o ddarllenwyr y cynwysant ddim mwy o sylwedd na chyrn llo. Heblaw hynny, mae ias lem gyntaf clefyd yr orgraff drosodd bellach; ond gadawyd y sylwadau fel y cafwyd hwy er mwyn yr atgof hanesyddol.

Ymdrech o eiddo'r eglwys gan mwyaf ydyw dirwest wedi bod yng Nghymru. Fe gyfleir yr hanes yma am nad ymdrech yr eglwysi bob un arni ei hun a fu, ond yn rhyw ymgynghreiriad â'i gilydd. Ac felly yr oeddid wrth ddod dan ddylanwad yr ymdrech hwnnw yn dod dan ddylanwad y dynion amlwg a ddygai berthynas âg ef yn y gwahanol enwadau.

Fe sefydlwyd y Gymdeithas Gymedroldeb ym Mangor yn ystod 1832-3 (Diwygiad Dirwestol, t. 40). Fe ddywedir y bu'r gymdeithas hon yn achos i alw sylw at yr angenrheidrwydd am foddion mwy effeithiol i wrthweithio'r drwg o feddwdod, ond na bu yn foddion adferiad hen feddwon. J. H. Cotton, y deon wedi hynny, oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Cymedroldeb. Bu Owen Thomas yn gweithredu fel ysgrifennydd. Fe gynhelid y cyfarfodydd cyntaf yn ysgoldy'r eglwys. Fe ymroes y Ficar Cotton o ddifrif ymhlaid yr achos. Pan ddeuai tro ei gyd-ficar i wasanaethu yn yr eglwys, elai efe'n fynych o gylch y ddinas gan ymlid ymaith yr yfwyr o'r tafarnau â'i bresenoldeb. Unwaith fe gafodd nifer o ddiotwyr yn y Virgin yn yfed cwrw o lestri tê. Yr oedd gwraig y dafarn yn aelod yn yr eglwys, a chyfarchodd yntau hi,—"Mrs. Davies, Mrs. Davies! rhagrith i gyd, rhagrith i gyd—