Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES METHODISTIAETH ARFON.

LLANLLECHID, LLANDEGAI, BETWS Y COED,

CAPEL CURIG.

ARWEINIOL.[1]

LLECHID, santes o ddechreu'r chweched ganrif a roes ei nawdd- ogaeth i'r eglwys o'r enw. Mae'r plwyf yng nghantref Llech- wedd Uchaf, ac y mae dros 12 milltir o hyd a thua 3 at ei gilydd o led, gan gynnwys oddeutu 18,000 o aceri. Mae o fewn 4 milltir i Fangor. Mae Llandegai yn dwyn yr enw oddiwrth Tegai, Sant o'r bumed ganrif. Rhed y plwyf hyd lan yr afon Ogwen, fel y rhed Llanllechid hyd y lan arall, ac y mae'n 15 milltir o hyd oddiwrth lan y Fenai i ucheldiroedd Eryri. Mae Betws y coed yng nghantref Nant Conwy, tair milltir o Lanrwst. Pen- tref ydoedd hyd y 16 ganrif ym mhlwyf Llanrhychwyn, pan yr aeth yn blwyf arno'i hun. Yr oedd yma sefydliad crefyddol unwaith yn dwyn yr enw Betws ŵyrion Iddon. Yr un yw Betws yma, gan hynny, a bead-house, sef tŷ gweddi. Fel y dengys yr enw, eglwys gysylltiedig â'r fam eglwys, sef Llandegai, yw Capel Curig, ac a elwid yn gapel oherwydd hynny. Y nawddsant yw Curig. Mae pellter o 13 milltir oddiwrth y ddwy eglwys. Mae'r cyfrifoldeb, wrth hen ddefod, o gadw'r capel yn ddiddos yn disgyn ar blwyf Llandegai. Mae'r eglwys yma o henafiaeth mawr. Hawlid eisteddleoedd yma gan drigolion

llethrau mynyddig plwyfi Llanllechid, Llanrhychwyn, Dolwyddelen, Llanrwst a Threfriw, yn gymaint a bod y trigolion

  1. Journey to Snowdon, Pennant, 1781. North Wales, Bingley, 1804. North Wales, Roscoe, 1853. North Wales, A. G. Bradley, 1898. Observations on the Snowdon Mountains, W. Williams, 1802. Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, Hugh Derfel Hughes, 1866. Dechreuad a Chynnydd y Methodistiaid yn Llanllechid a Llandegai, R.O., 1882. Enwogion Llanllechid a Llandegai, Llechidon, 1868. Llenyddiaeth ac Topographical Dictionary, S. Lewis, 1842. Y Diwygiad Dirwestol, John Thomas, D.D., 1885.