Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae'r cydymaith gopa, sef Carnedd Dafydd, yn gysylltiedig â Charnedd Llewelyn wrth wddf llun hanner-lloer, a elwir ar yr ystlys dros Cwm Penllafar yn Ysgolion Duon; a ffurfia'r erchylldod mwyaf o ddibyn y gall meddwl ei amgyffred. Mae uchter Carnedd Dafydd yn gyfartal i Garnedd Llywelyn. Disgynasom drwy Gwm Penllafar, sef llafar yr helgwn, feallai, mewn llawn llais ar Greigiau'r Helwyr." Hyd yma Pennant.

Daeth Bingley heibio yma yn 1801: "Mae chwarelau'r Arlwydd Penrhyn ym Mraich y cafn yn y mynyddoedd ar ystlys dde-orllewin Nant Ffrancon. . . . Hyd yn oed ar ol ystyriaeth lwyrach, nid yw ein syndod wrth ymdrechion dyn yn cwbl beidio. Eithr o fewn y deuddeng mlynedd diweddaf y cyflawnwyd hyn o waith yn bennaf, canys, yn flaenorol i hynny, nid oedd y chwarelau yn cynnyrchu i'r Arlwydd Penrhyn prin ragor na chwe gini neu wyth yn y flwyddyn, wrth fod gan rai o'i denantiaid brydles am 21 mlwydd ar yr ardreth fechan o gini'r un. Ar ei stâd yn y Nant Ffrancon nid oedd ond tair o gertwyni, ac yr oedd y ffyrdd mor enbyd o ddrwg fel mai prin y gallesid tramwy ar hyd-ddynt.

"Yn wasgaredig yma ac acw y gwelir bythynod y gweithwyr wedi eu gwyngalchu. ... A barnu oddiwrth y ffenestri wedi eu torri, a golwg bratiog a budr y plant yn rhyw ddau neu dri ohonynt y meiddiais frathu fy mhen i mewn iddynt, nis gellid meddwl ond am eithaf tlodi a thrueni yn teyrnasu oddimewn.

"Dyma Garnedd Llewelyn i'r gorllewin yn union o'r fan yma, prin dros dair milltir o bellter fel yr hêd y frân. Mae traddodiad y preswyliai Rhita Gawr ar y mynydd hwn, ac yr ydoedd efe'n ddychryn i'r holl wlad. Nhwy ddywedant y gwisgai efe gochlwisg wedi ei gweu o farfau amryw o'r tywysogion a'r milwyr mwyaf pypyr a laddwyd ganddo mewn gornest.

"Gan adael ein cewryn ynghyd a'i breswylfod, mi ddisgynnaf i'r Nant Ffrancon fynyddig, ysgythrog, sef hafn yr afancod. Yma'n wir, mewn aruthr drefn y saif yr anferth fryniau ynghyd.... Nhwy gyfodant yn ddiswta oddiwrth eu seiliau, gan ymestyn yn bigau moelion i'r cymylau, heb eu hamrywio gan goed neu lysiau, ac heb eu sirioli hyd yn oed gan fwthyn y tyddynwr. Gwna'r mynyddoedd ym mhen uchaf y nant olygfa neilltuol o fawreddus: gwylir dwy ystlys yr hafn