Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ansutiol i athrylith Salvator. Petae troed Wilson wedi treiddio i'r ciliau mwyaf mawreddus hyn ym mryniau Caernarvon, e fuasai chwaeth ddyrchafedig y brudiwr natur hwnnw wedi derbyn argraff rhai o'u prydweddion amlycaf. Nis gall dychymyg ei hun lunio llinellau'r olygfa yn eu cynghanedd. ddieithr mewn un weledigaeth fawreddus, yn amrywiaeth cyfoethog lliwiau'r aur a'r tymor, megis y gwelais i nhwy.

"Gweithir y chwarelau llechau gerllaw ar raddfa eang, gyda'r manteision rhyfedd a hyfforddir gan y ffyrdd haearn a'r gwelliantau yn y dull o weithio; ac y maent wedi cynyrchu. effeithiau cyfareddol braidd ar hyd y priffyrdd mawrion, gan gyflenwi wyneb y ddaear nid yn llai â thai cyfleus a helaeth nag à bwthynnod gweithwyr, ac â threfi diogel a phentrefi. Nid llai fy nyddordeb yng nghywreinrwydd adeiladwaith y melinau, ac yn y gorchwyliaethau gwahanol a ddilynir wrth egwyddorion manylaf gwyddoniaeth beirianyddol, yn enwedig ymherthynas â gweithio'r amrywiol fathau ar lechau yn eisieu mewn tai ac mewn adeiladwaith ac mewn ysgolion. Nis gellir edrych ar y gweithydd hyn heb edmygedd o ysgil a llafur Prydeinig. Dywedwyd wrthyf y cludir beunydd uwchlaw dau can' tunnell o lechau ar y ffordd haearn o chwarel Cae braich y cafn.

"Mae nifer y troellau, y peiriannau pwmpio, y grisiau eang y naill uwchben y llall, gweithwyr yn crogi wrth reffynnau yn eu llafurwaith peryglus, neu'n sefyll ar silffoedd culion i'r creigiau, ynghyda rhu parhaus olwyn llafur ym mhob cyfeiriad, a'r saethu cyffrous bob rhyw bedwar neu bum munud yn atsain o fryn i fryn, gan gludo sŵn fel taranfollt i hafnau'r creigiau, -mae'r pethau hyn gyda'i gilydd yn gwneud pictiwr wedi ei ddwyn allan megis drwy rym gorcheiniaeth, yn enwedig yn y cyferbyniad â'r unigedd erch oddiamgylch.

"Wrth deithio'r ffordd bost ar hyd llinell y chwarelau, synnwyd fi gan gynnydd cyflym y boblogaeth a'r tai annedd o fewn yr ugain mlynedd diweddaf, a chan welliantau yn nhelerau bywyd ac yn yr arwyddion o ddealltwriaeth ar bob llaw. Yr oedd un peth a dynnai'n ôl oddiwrth yr arwyddion hyn o lwyddiant, sef y tafarnau dirif, degwm y tai ynghyd, heb eithrio Bethesda, efo'u harwyddnodau o Ddragwm Uthr a'r Prince Llewelyn hyd at y Glyndwr Arms a'r Meredith Arms.