Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yrroedd yn pori gerllaw. Os neseid atynt, diflannent hwythau. Nhwy ganent weithiau drwy gorff gydol nos, er anfeidrol fwynhad y sawl a'u clywai. Ar nosweithiau lloergan lleuad fe'u gwelid ar brydiau, pan fyddid mewn tymer wynfydig, yn eu twmpath chware law-law mewn cylch o ryfeddod, mewn peisiau gleision a chapiau cochion yn dawnsio'n hoew-brysur. Ond os neseid atynt eto, p'run a gyferchid hwy ai peidio, fe dorrai'r hwndrwd a gwasgerid nhwythau, ac erlynid yr edrychwyr beiddgar ond odid gan un neu ragor ohonynt, neu ynte fe dynnid yr edrychwyr hynny i mewn i'r cylch, ac elai'r amser ar ffo yng nghlô'r hwndrwd, p'run ai ar wyneb maes ai yngwaelod llyn, nid oedd âs gwahaniaeth. A byth ar ol hynny, sef gwedi diflannu o'r gweledigaethau, yr oedd llaeth ac ymenyn a chaws fferm Corwrion yn rhagori ar laeth ac ymenyn a chaws pob fferm yn y wlad i gyd, oherwydd cymysgu o'r catel â brid catel y tylwyth têg.

Eithaf peth fyddai gwylio'r march wrth y Marchlyn, canys pa mor ddôf a thawel bynnag yr edrychai, nid oedd ymddiried i'w roi ynddo os march dieithr ydoedd. Unwaith ar gefn Ceffyl y Dwr yn iach weithian am yr hoedl, oblegid cyn meiddio dyn gwac dyna farch a'i farchog yngwaelod llyn! Ac am yr ellyll hwn, cig a chnawd yw ei arbennig amheuthun; ac yn arafdeg y traflynca efe'r ysglyf, gan gymaint blasyn a gaiff arnynt.

Uwchlaw Betws y Coed y mae Llyn yr Afanc. Merch a hudodd yr afanc hwn o'i drigfan, a rhwymid ef â thidau heiyrn tra'r ydoedd yn cysgu a'i ben ar ei glin hi, fel Samson ar liniau Dalila. Pan ddeffrodd yr afanc, ffwrdd ag ef i'w loches a bron y ferch yn ei grafanc. Eithr yr oedd y did à digon o hyd ynddi, a rhwymwyd ychen bannog o efeilliaid wrthi a thynnwyd yntau'r afane allan o'i loches. Hwn oedd yr afanc a gludwyd i Lyn Cwm Ffynnon Las uwchben Llyn Peris..

Wrth drin ar agwedd foesol y wlad, fe ddywed Hugh Derfel Hughes (t. 89) y cynhelid rhedegfeydd ceffylau ar feysydd y Penrhyn yn ymyl Llandegai bob blwyddyn hyd 1766 neu ddi- weddarach. Cynhelid chwareuon ym Mhant y Lôn, ychydig odditan y Chwarel goch, ar y tri Sul olaf yng Ngorffennaf, hyd y flwyddyn 1804. Darllewid diod yn helaeth ar gyfer y chwar-