Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bethesda.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awel ymhell oddiwrtho, ac yn gynwysedig o wahanol leisiau, er mai o'r braidd y clywai ef. Yr oedd eraill gydag ef ar y pryd, a chlywent y swn gwanaidd, pereidd-ddwys yn dynesu atynt yn raddol, nes o'r diwedd y clywid ef yn eglur a grymus. Bellach yr oedd yn gyffelyb i swn tyrfa fawr yn gorfoleddu. Y gwr hwn a letyai yn nhŷ capel y Carneddi. Un tro, gofynnid iddo gan hen chwaer grefyddol a breswyliai yn ymyl y capel, a oedd rhyw foddion yn y capel ar y nos Iau blaenorol? Atebid nad oedd. "Felly yr oeddwn innau yn meddwl," ebe hi; "ond fe ddaeth geneth fach ataf o'r tŷ nesaf, gan lefain, Dowch allan, modryb, i glywed canu braf." "Pa le y mae'r canu?" gofynnai y wraig. "Yn y capel-yn y capel," ebe'r eneth. "Aethum allan," ebe'r wraig, "a chlywais megis swn tyrfa fawr yn moliannu Duw."

Yn fuan ar ol y canu a glywyd yng nghapel y Carneddi, yr oedd dau wr o'r deheudir yn pregethu yno, y naill a'r llall yn dwyn yr enw Daniel Evans. Effeithiau grymus a ddilynai y pregethu, ac wrth ganu'r emyn, Dyma babell y cyfarfod, torrodd allan yn orfoledd mawr. Ymhen tuag awr neu ddwy aeth y gwr y crybwyllwyd am dano allan o'r tŷ capel, a thybiodd y clywai y canu yn yr awyr, a daeth i fewn yn ol i'r tŷ i ddweyd hynny wrth y ddau bregethwr. Yr oedd ymddiddan wedi bod yn y tŷ ynghylch y canu hwn, ac yr oedd un o'r pregethwyr yn lled amheus yn ei gylch. Ar eu gwaith yn dod allan, pa fodd bynnag, clywodd bawb ohonynt ef yn eglur, ac ebe'r amheuwr,-"Dyma fe yn siwr, y mae yn fy ngherdded. bob gwythien yn fy nghorff." Yr un gwr ar dro arall, wrth gerdded allan at yr hwyr, a phedwar o gymdeithion gydag ef, a feddyliai ei fod yn clywed y canu. Galwai ar ei gymdeithion it sefyll a gwrando, ond un ohonynt a fynnai gerdded yn ei flaen gan wawdio'r lleill am en hygoeledd. Yn y fan, dyna'r sain yn fwy eglur nes eu bod i gyd yn sefyll i wrando. "Wel, Thomas," ebe yntau wrth yr amheus, "a glywi di ef yn awr?" Nid atebodd Thomas. Gofynnwyd wedyn, ond methu ganddo ddwyn y geiriau allan. Ym mhen ennyd, fe dorrodd allan,- Cl-y-w-af, filoedd ar filoedd." "Paham nad atebaisti yn gynt?" "Nis gallaswn siarad, pe rhoisid y byd i mi i gyd," ebe yntau. Fe ymddengys mai E. Richards yr ysgolfeistr, wedi hynny o Gonwy, oedd y gwr a adroddai'r pethau hyn. A dywed ddarfod iddo glywed Morris Jones yr Hen Broffwyd yn