Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac acw drwy'r Dyffryn i hyfforddi'r ardal yn y wyddor newydd. Ymhen ysbaid, sef yn y flwyddyn 1868, daeth Ieuan Gwyllt yno i'w harholi, ac enillwyd tystysgrifau y Solffa yma y pryd hwnnw am y tro cyntaf. Rhoddai'r athraw wobrwyon ei hunan hefyd. Penodwyd ef gan Goleg y Solffa yn arholydd am y dystysgrif elfennol, a glynodd wrth y gwaith am weddill ei oes. Danghosodd ddeheurwydd fel addysgwr plant, ac ymroes i lafur yn y ffordd hon yn wyneb anfanteision. Gwnaeth y gwaith hwn nid yn unig heb elw arianol iddo'i hun, ond ar gryn draul. Yr oedd ei hunan yn ddiffygiol mewn llais, er iddo fod am gyfnod yn cynorthwyo gyda'r arweiniad yn y canu cynulleidfaol. Dethol y dôn fyddai ei brif orchwyl y pryd hwnnw. Yn ddirwestwr selog, fe lafuriodd gyda'r Gobeithlu, y Clwb du a Themlyddiaeth dda. Bu'n ffyddlon dros ben mewn ŵylnosau a chyfarfodydd gweddi fore Sul yn y tai. Bu achos Iesu Grist yn yr ardal yn fawr ofal calon arno. Ganwyd ef ar y Nadolig, 1833, a bu farw ar y Nadolig, 1899.

Dyma restr y dechreuwyr canu, yn ol Mr. Williams: Robert Griffith Tŷ Capel, Edward William yr Offis, Thomas Jones y crydd, Hugh Owen Bryncoed, William Hughes Ty'nyweirglodd, William Owen Jones Gwernor, Edward Owen Brynteg, Griffith Ellis Jones Brynhyfryd, Edward Jones Brynteg, John H. Jones Plasmadoc, John William Jones Bro dawel, Hugh Owen Jones Tan y dderwen, John Jones Owen Bryncoed.

Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885): "Ysgol gyfoethog o adnoddau, a'r rhai hynny yn cael eu dwyn i weithrediad cyfatebol effeithiol. Ystafell ragorol i'r plant ieuengaf, ac ystafell arall i blant tlodion, gyda lliaws o'r cyfryw yn derbyn addysg gan athrawon da a hunan-ymwadol. Arolygwr y flwyddyn cynt yn ysgol Talsarn yn parhau y flwyddyn ddilynol fel ymwelwr â'r dosbarthiadau, gyda'r amcan, yn un peth, o gadw i fyny gyfartaledd y presenoldeb. Credwn fod ei le i'r fath swyddog mewn ysgolion lliosog fel hon. Caem arwyddion o fedr, ymdrech a haelioni yma, yn derbyn eu gwobr haeddiannol yn y llu mawr o ddosbarthiadau o ieuenctid ag y rhyfeddem at eu gwybodaeth ysgrythyrol. Sylwem ar rai athrawon, er hynny, yn gollwng o'u gafael eu hunain y gwaith o holi rhai rhy ieuainc i wneud hynny drostynt eu hunain; a dyna'r dosbarthiadau a ystyriem fwyaf ar ol."

Rhif yr eglwys yn 1887, 306; yn 1900, 365.