Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sion Abel; William Williams Tŷnewydd, bryd hynny, yr hwn a symudodd i'r tŷ capel yn 1828, sef tad John Williams Talybont. Cyfodwyd rhai gwŷr defnyddiol y pryd hwn. Yr hynotaf ond odid oedd Robert Williams, mab William Roberts Tanygelynen, o'i ail wraig, Mary Parry. Cynyddodd yn gyflym mewn gwybodaeth ddiwinyddol ymhell tuhwnt i'w gyfoedion. Ymhen amser ymfudodd i'r America, a daeth yno yn weinidog cymwys y Testament newydd. Ychwanegwyd y pryd hwnnw oddeutu 80 at yr eglwys, ac fe ddywedir na ddychwelodd mwy na rhyw un neu ddau ohonynt yn eu hol i'r byd. Daeth y tri chyntaf yr un noswaith yn 1829, sef O. Jones Brynmelyn bach a J. a H. Williams Cae'mryson. Deuai John Jones Talsarn yma y pryd hwn yn fynych i'r seiadau, ar un adeg bob wythnos braidd, i ymgeleddu'r dychweledigion. Dywedid mai un o'r pethau a fu'n foddion i ddeffro'r eglwys gyntaf oedd Cyfarfod Ysgolion a gynhaliwyd yn Llanllyfni, pryd y llefarodd John Jones yn erbyn arferion amhur gyda nerth oedd yn arswyd i'w wrandawyr. Yr oedd J. a H. Williams Cae'mryson yno fel cynrychiolwyr,er heb fod eto yn aelodau. eglwysig. Traddodwyd sylwadau John Jones ganddynt i'r ysgol. gyda'r fath ddwyster a difrifwch a fu'n ddeffroad i'r ysgol a'r ardal.

Yr oedd cyfarfod pregethu y Pasc wedi ei ddechre cyn y diwygiad. Cafwyd cyfarfod nodedig yn 1833, pryd y gwasanaethwyd gan Griffith Jones Tregarth, Cadwaladr Owen a John Jones Talsarn.

Sefydlwyd Cymdeithas Gymedroldeb a'r Gymdeithas Ddirwestol yr un noswaith. Daniel Jones Llandegai, fel y tybir, yma yn eu sefydlu. Ymunodd 15 â'r Gymdeithas Ddirwestol. Gwreiddiodd dirwest mor ddwfn yma yn y man fel nad anturiodd neb agor tafarn yn yr ardal yn unlle o'r pryd hwnnw hyd yn awr.

Fe ddywedir fod yr ysgol yn cynyddu yn y capel, ac y danghosid sel ynglyn â hi. Aeth William Hughes yr holl ffordd o Dyddyn y berth i chwarel Pen yr orsedd gyda chais at John Owen o'r Dafarn dyweirch, am iddo ddod yn athraw ar ddosbarth y meibion. Sonir am William Hughes yn myned i gyrchu disgyblion i'r ysgol o blith y chwareuwyr ar y llain wrth gamfa'r ystol, y pryd hwnnw'n gomin, yn awr yn rhan o ffridd Hafoty Tŷ newydd. Nid oedd neb i gael myned allan o'r ysgol hon heb diced gan yr arolygwr. Y ticed oedd ddernyn o bren tua thair modfedd o hyd