Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ol hynny, yn flaenoriaid, fel y tybir, yn 1835, neu cyn hynny. Efe oedd y cyhoeddwr tra y bu yma. Ymsefydlodd yn y Blue Mounds, Talaeth Wisconsin, lle bu fyw hyd 1874. Bu farw Ionawr 11, 1883, yn 85 oed, yn y Bristol Grove, Talaeth Minnessotta. Gwr call, di-uchelgais. Aeth William Jones Muriau i Ffestiniog yr un adeg a William Williams. Gwr defnyddiol gyda'r ysgol Sul a'r canu.

Hydref 17, 1846, y bu farw Griffith Jones, wedi gwasanaethu yn y swydd am 52 mlynedd, yn hwy na neb arall yn Arfon ar y pryd. Yr ydoedd yn y swydd er yn 18 oed. Efe oedd y gwr blaenaf gyda'r achos yma yn ei gychwyniad, a pharhaodd y mwyaf ei ddylanwad yn ol hynny, ac yr oedd yn fwy ei ddylanwad yn yr eglwys na neb a fu ar ei ol. Efe oedd y cyhoeddwr ar ol William Williams. Yr oedd hefyd yn ysgrifennydd yr eglwys, ac nid ydys yn sicr nad efe oedd y trysorydd hefyd. Arweiniai ym mhob seiat. Yr oedd yn wr o ddylanwad yn y Cyfarfod Misol. Nodweddid ef gan dynerwch. Wedi glanhau y briw, fe dywalltai i mewn win ac olew. Geilw Robert Ellis ef yn hen flaenor ac apostol Rhostryfan. A dywed fod popeth blaenor llwyddiannus wedi cydgyfarfod ynddo, yn wr doeth, pwyllog, enillgar, yn fedrus i arwain yr eglwys ac i drin dynion. A dywed ddarfod iddo fagu cenedlaethau o bobl ieuainc. yn Rhostryfan nad oedd eu rhagorach, os eu cystal, yn sir GaernarYr oedd yn y capel Coch Llanberis ddau Griffith Jones yn wŷr hynod yr un cyfnod: aeth y naill i Hebron, a daeth y llall i Rostryfan, y naill a'r llall y gwŷr hynotaf yn eu gwahanol eglwysi o'r cychwyn. Pregethwyd yn ei noswyl gan Robert Owen ar Hebreaid xiii. 7, "Meddyliwch am eich blaenoriaid " (Job v. 17 ddywedir yn y Drysorfa), a'r noswaith ddilynol gan John Jones oddiar Hebreaid xi. 13, "Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll." (Drysorfa, 1847, t. 159.)

1847-8, John R. Owen, mab Robert Owen yn dechre pregethu.

Ceir byrr-gofiant yn y Drysorfa (1847, t. 190) i Ann Williams, gwraig William Edwards Cae'mryson. Bu hi farw Ionawr 19, 1847, yn 75 oed, wedi bod yn aelod am 47 mlynedd. Ei hoff bleser oedd darllen y Beibl hyd nes aeth yn rhy wan i graffu arno. Dywediad o'i heiddo: "Nid wyf yn leicio fod trwch y peth lleiaf mewn bod rhwng fy enaid tlawd a'r maen sydd wedi ei osod yn Seion." Ei chladdedigaeth hi y cyntaf ym mynwent newydd Rhostryfan.