Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dwy. Cadwai hi ddyledswydd yn rheolaidd nos a bore. Y ferch arall, Ellen, oedd un o'r cantoresau blaenaf yn yr ardaloedd. Yn 27 oed yr ymunodd John Williams â'r eglwys. Bu ynddo ef ryw duedd at wylltineb, ond cafodd dro amlwg yn 1829. Yr ydoedd yn chwarelwr medrus. Meddai ar gof eithriadol dda, ac yr oedd ganddo ddawn siarad naturiol. Yn wr o ddylanwad ar eraill. Ofnid a pherchid ef yn y chwarel. Yn wr o ffyddlondeb diball yn yr eglwys. Pan ddywedid wrtho ei fod yn rhy wael i fyned i'r capel, bellter o ffordd, atebai yn ol, "Na, fe ddaw yn anhaws eto." Dim yn ormod ganddo i'w wneud er mwyn yr achos. Go lym mewn disgyblaeth. Neilltuol mewn gweddi. Parod fel siaradwr ar amrywiaeth o bynciau, megys cerddoriaeth a dirwest. Yn niwedd ei afiechyd, yr adnod honno yn fynegiad o'i brofiad, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti." (Drysorfa, 1856, t. 27.)

Yng nghofnodion y Cyfarfod Misol ym Meddgelert, Mehefin 13, 1853, fe geir a ganlyn: "Cyfeillion Rhostryfan yn gofyn cennad i helaethu eu capel. Dymunwyd ar y Parch. J. Jones Talsarn a Mr. Meyrick Griffith Brynrodyn fyned yno i gynllunio'r adeilad, ac edrych faint fydd y draul, ac ymdrechu cael gwybod faint wneiff y gynulleidfa gasglu yn yr ardal tuag at yr amcan. Bod rhyddid iddynt ddefnyddio'r £50 mewn llaw at y ddyled newydd, gan adael gweddill yr hen ddyled hyd amser ar ol hyn."

Yn 1855-6 fe adgyweiriwyd y capel. Chwalu un ochr, a chodi talcen newydd, nes bod yr hyd blaenorol yn lled iddo bellach. Codwyd yr ochr bum llath er gwneud y talcen newydd. Yn cynnwys 150 yn ychwaneg. Golwg dipyn yn chwithig oedd arno yn awr, fel mai prin y gallai dieithriaid wneud allan beth ydoedd. Ei fesur oddifewn, 19 llath wrth 12. Un drws mawr ar y wyneb yn lle'r ddau blaenorol.

Daeth John Roberts y pregethwr yma o Lanllechid i gadw ysgol yn 1856. Symudodd i Ddinbych y flwyddyn ddilynol, fel golygydd neu is-olygydd y Faner.

Awst 8, 1856, bu farw Griffith Evans, yn 72 oed. Pan oddeutu 25 oed fe'i hargyhoeddwyd dan bregeth Michael Roberts yn Llanrug ar Deuteronomium xxxiii. 27, "Dy noddfa yw Duw tragwyddol." Credwyd pan welwyd ef yn y seiat mai dod yno i derfysgu a wnaeth. Ymroes i gasglu gwybodaeth. Ymhen tair