Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blynedd yn flaenor ym Moriah, Caernarvon. Bu yn y swydd yno am 25 mlynedd. Pan ddaeth i Hafoty Rhostryfan tuag 1837, galwyd ef i'r swydd yma hefyd. Gwrol a didderbyn wyneb. Sefyll yn gryf dros ddisgyblaeth. Yn ei sylwadau ar Gyfarfod Misol Arfon yn yr oes o'r blaen, geilw Robert Ellis ef yn wr llym, o eiriau miniog, yn fedrusach i archolli nag i wella. Gwr cywir, cydwybodol oedd ef, yn mynnu ei hawliau ei hun, ac yn caniatau eu hawliau i eraill. Daeth gwr i'r seiat unwaith yn rhy fuan ar ol ei ddiarddel. Gorchmynnodd Griffith Evans ef allan gydag awdurdod. Efe a aeth dan ruddfan. Daeth drachefn ymhen ysbaid, a bu'n aelod ffyddlon weddill ei ddyddiau. Ffyddlon gyda'r ysgol ar hyd ei yrfa, mewn tai annedd yn Llanrug ac ar ol hynny. Pan ofynnwyd iddo am ei gyflwr ar ei derfyn, ei ateb oedd, "Os oedd yr oruchwyliaeth yn dda yn y dechre, y mae hi yn dda yn awr.' Ac yna fe ychwanegai, "Y mae hi yn dda hefyd." Mynych y crybwyllai y geiriau am Grist wedi ei wneud i ni gan Dduw yn ddoethineb, yn gyfiawnder, yn sancteiddrwydd ac yn brynedigaeth, a dywedai nad oedd eisieu iddo ef ofyn, "Pa beth da a wnaf." Ei eiriau olaf, "Ac y'm ceir ynddo ef." Ei air mawr ar weddi, "Lle yr amlhaodd pechod y rhagor amlhaodd gras."

Chwefror, 1857, daeth Griffith Jones yma o Feifod, sir Drefaldwyn, fel ysgolfeistr. Rhoddid iddo ef, fel ag i John Roberts o'i flaen, £20 yn y flwyddyn o arian yr eisteddleoedd. Yn y flwyddyn 1861 fe symudodd i Moriah. Y pregethwr o'r enw hwnnw ydoedd ef.

Mai 1857, daeth Griffith Jones Cae haidd, y blaenor, yma. Hydref 14, 1857, y bu farw Ellis Jones Glanrafon, yn 57 oed, wedi gwasanaethu fel blaenor er 1847 (nid 1848 fel yn y Drysorfa). Nai iddo ef ydoedd Elis Wyn o Wyrfai, ac yr oedd dawn a synwyr mewn lliaws o'r teulu. Daeth i fyw i'r ardal hon oddeutu 1830, ac yn ol hynny yr ymunodd â chrefydd, er yn dilyn bywyd gwastad o'r blaen. Bu amryw weithiau wrth ddrws y capel, heb allu casglu nerth i fyned i mewn i'r seiat, hyd nes yr anogwyd ef gan hen chwaer i'w dilyn hi. Yr oedd yn meddu ar lawysgrif dlos, ac wedi cael mwy o ddysg nag arfer. Efe oedd ysgrifennydd olaf Cymdeithas Caredigion Rhostryfan, pan ddirwynwyd hi i fyny yn 1842; ac efe ydoedd ysgrifennydd y Gymdeithas Gynorthwyol a sefydlwyd yn ei lle yn 1843. Garddwr yn ei flynyddoedd cyntaf,