Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu yma gyfnod drachefn heb ysgol. Cychwynnwyd hi yn nesaf yn nhŷ Robert Thomas Williams Bryntirion. Yn y symudiad hwn fe aeth yr ysgol i gwrr arall o'r ardal. Bu gradd o lwyddiant yma eto; ond ni bu parhad yma chwaith.

Aeth ysbaid go faith heibio, yn ol hynny, heb godi'r ysgol drachefn. Dychwelodd yr ychydig ffyddloniaid i'r hen ysgolion. Elai tri ohonynt i Frynrodyn, sef Robert Jones, Eleazer Owen a Thomas Roberts. Ar ddychwelyd adref yr oeddynt ar un Sul, pan, a hwythau ar Ffridd braich y trigwr (a gofiwyd y lle oherwydd cyd-darawiad yr enw â'u nifer hwy ?), y gofynnodd Eleazer Owen i Robert Jones, a oeddynt yn gwneuthur yn iawn fyned i Frynrodyn i ddysgu plant dieithriaid, a gadael eu plant eu hunain adref i chware? Atebodd Robert Jones fod yn dda ganddo glywed y peth yn cael ei ofyn. Penderfynwyd cyflwyno'r peth i sylw David Griffith, gweinidog yr Anibynwyr yn Nhalsarn. Arferai ef ddod yn lled aml i bregethu i dŷ Eleazer Owen. Rhoes yntau ystyriaeth i'r pwnc, ac yn yr oedfa nesaf nid hwyrach, rhoes gymhelliad ar y diwedd i godi ysgol, gan ofyn pwy roddai ei dŷ i'r amcan? Atebodd gwraig weddw y rhoddai hi ei thŷ. Pum llath bob ffordd oedd mesur y tŷ hwnnw, ac yr oedd ynddo ychydig ddodrefn. Bwlch-y-llyn bach oedd yr enw y pryd hwnnw, ond Tyddyn canol yn awr. Yma y rhoes yr ysgol ei throed i lawr, i aros bellach yn y gymdogaeth. Fel colomen Noah, bu'r ysgol yn y gymdogaeth hon am ysbeidiau heb orffwysfa i wadn ei throed; wedi hynny gwelwyd hi'n dwyn y ddeilen olewydden yn ei gylfin, wedi ei thynny oddiar y pren; ond yn y man, wele hi'n gwneud ei nyth ar y pren olewydden!

Aethpwyd ymlaen bellach, mae'n wir, ond eto yn wyneb anhawsterau. Ymgesglid i chware ar Bonc y buarth, sef gyferbyn â thŷ'r wraig weddw. Llwyddwyd i ennill y chwareuwyr i'r ysgol, nes bod y tŷ yn rhy fychan i'w cynnal. Symudwyd i Tŷ hwnt-i'r-bwlch, sef cartref Eleazer Owen. Yno y buwyd hyd nes llenwi tŷ a beudý. Mwy o sel yma na welwyd o'r blaen. Robert Jones oedd yr arolygwr yma fel o'r blaen. Efe a ddechreuai'r ysgol, ac efe fyddai'n holi ar y diwedd, ac yn gorffen y gwasanaeth drwy weddi. Dywed Rowland Owen mai efe yn unig oedd yn proffesu crefydd yn yr ardal. Pan ddeuai David Griffith yno i bregethu, fe fyddai yn annog canlyn ymlaen efo'r gwaith. Trwy lwyddiant yr