Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgol y graddol ddiflannodd y chwareuon ar y Sul. Fel yr elai tŷ Dafydd yn gryfach gryfach, elai tŷ Saul yn wanach wanach.

Yn nesaf, buwyd am ysbaid byrr mewn tŷ gwag o eiddo John Owen, a gymerwyd ar ardreth, sef y Dafarn. Awd a chais am ysgoldy o flaen cyfarfod athrawon Brynrodyn, gan erfyn am gymhorth. Ar y cyntaf yr oedd golwg am hynny. Ond wele Sion Griffith ar ei draed, ac yn cymeryd ei ddameg. "Yr wyfi," eb efe, "yn byw yn y Brynrodyn a'm brawd William yng Nghefn y werthyd; ac yr ydym yn byw yn eithaf cytun. Ond pe buasem ar yr un aelwyd, mae'n ddiameu na buasem ni mor gytun ag ydym." Ergyd lawchwith Sion, mewn cyfeiriad at fod Anibynwyr cystal a Methodistiaid yn ymgynnull ynghyd yn yr ysgol. Pan glywodd David Griffith, y gweinidog, am eiriau Sion Griffith, bu'n ddig iawn ganddo, a chymerodd le i adeiladu ysgoldy, a chodwyd ysgoldy Pisgah yn 1820. Ar hynny, fe symudwyd yr ysgol o'r Dafarn i Pisgah. Erbyn hyn yr oedd ysgol yn cael ei chynnal yn y Fron hefyd; ond ni symudwyd mo honno. Fel mai niwed, ac nid lles, i'r Methodistiaid yn y teulu a wnaeth dameg Sion Griffith.

Ar symudiad yr ysgol o'r Dafarn i Pisgah, yr ydoedd yn symud o fod dan aden Brynrodyn i fod yn ysgol Anibynnol. Robert Jones yn unig a beidiodd â myned i Pisgah: aeth ef yn ol i ysgol Brynrodyn. Fel yna y dywed Rowland Owen, ond y mae Methodistiaeth Cymru (II. 225) yn dweyd ddarfod i eraill fyned i Frynrodyn cystal a Robert Jones. Feallai i Rowland Owen gamgymeryd yr ystyr yn y Methodistiaeth, lle darllennir, "ymysg y rhai olaf yr oedd Robert Jones ei hun." Hyd yn oed wedi symud yr ysgol i Pisgah, nid oedd yno yr un crefyddwr i gymeryd rhan mewn gweddi gyhoeddus; a gwneid hynny o wasanaeth gan William Hughes y Buarth. Yr oedd colled fawr ar ol Robert Jones, yn enwedig efo'r holi cyhoeddus. Awd ato gan erfyn arno ddod i Pisgah. Wedi cael caniatad y brodyr ym Mrynrodyn efe a addawodd ddod, ar yr amod na chynelid yr ysgol pryd y byddai oedía ym Mrynrodyn; ac â hynny y cytunwyd. Robert Jones oedd yr arolygwr yma eto, ac efe a ddechreuai ac a ddiweddai drwy weddi.

Fe ddechreuodd ysgol Pisgah wisgo gwedd lewyrchus, a chyn hir yr oedd yno o 60 i 80 o aelodau. Dywed Rowland Owen mai yn yr ysgol hon y dechreuwyd ymholi am ystyr yr hyn a ddar-