Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1840 fe dorrwyd y cysylltiad â Brynrodyn fel taith.

Yn 1844 fe adgyweiriwyd y ty capel yn o lwyr ar draul o thuag £20.

Galwyd Trevor Roberts Bwlchglas yn flaenor yn 1846. Yn 1852 (yn 1854 yn ol cyfrif arall) y symudodd John Robinson i eglwys Talsarn wedi gwasanaethu yma fel blaenor er 1836. Gweithiodd yn rhagorol yma ynglyn â'r ysgol ac ym mhob cylch. Pan symudodd yr eglwys ymlaen gydag ail-adeiladu'r capel fe hyrwyddodd yntau hynny o waith. Gwr dawnus anarferol a llwyr ymroddedig y ceid ef yma fel ar ol hyn yn Nhalsarn.

Ymhlith cofnodion Cyfarfod Misol Beddgelert, Mehefin 13, 1853, fe geir y cofnod yma: "Mae Carmel yn gofyn caniatad i helaethu'r capel; ac y mae ganddynt eisoes addewidion am £52 a £10 mewn llaw. Ac y maent yn barnu mai oddeutu £100 fydd y draul. A rhoddwyd cennad iddynt ar yr ystyriaeth y bydd iddynt ei orffen yn ddiddyled."

Helaethwyd y capel yn ystod Gorffennaf, 1853-Medi, 1854. Tynnwyd talcen ac ochr i lawr fel ag i'w helaethu yn ei hyd a'i led. Ymgymerodd y chwarelwyr â gofalu am gerryg. Elid gydag ebillion i'r mynydd i saethu cerryg yn yr hwyr. Erioed ni chlywyd cymaint swn morthwylion ar ochr y mynydd hwnnw, ebe Mr. Ephraim Jones. Y draul, £204 4s. 101c. Erbyn yr agoriad, £52 8s. 6c. mewn llaw.

Yn 1854 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Robert Griffith Bryn- ffynon, Evan Roberts Dolifan, Henry Roberts Bwlchglas.

Yn 1857 y bu farw William Owen Brynbugeiliaid. Ganwyd ef yn y Beudy isaf, Ebrill 1785. Owen Dafydd oedd ei dad. Dyn o daldra canolig ebe Mr. Ephraim Jones, gydag ysgwyddau llydain, llygaid llym, ac yn wr llawn tân gyda'r achos. Bu'n arolygwr ar yr ysgol am 15 mlynedd, pan y dilynwyd ef gan John Robinson. Fel arolygwr fe ddygai gydag ef bren bychan gyda nodwydd ddur ar ei flaen i bigo yr afreolus âg ef. Bu William Roberts a Robert Williams Bryn naidhir yn gwneud prennau cymwys at ei wasanaeth, prun a fyddent yn cael blas ar y gorchwyl ai peidio, oblegid ni ddywedir mo hynny. Byddai Frederic Fawr yntau, emprwr Prwsia, pan ddeuai ar ei hynt ar eu traws yn anisgwyliadwy, yn taro segurwyr pen yr heol ar