Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddi, a phan ar y cae wrth ei dŷ, dyma ef yn troi yn ei ol, a thrwy ddrws y capel âg ef fel gwallgofddyn, ac i'r set fawr ar ei union, gan weiddi, "A oes yma le i un fel fi ?-un wedi gwneud popeth yn eich herbyn." A dyna hi'n waeddi mawr drwy'r lle. Mewn un cyfarfod, fe ddaeth llu mawr i ymofyn am le yn yr eglwys. Yr oedd yno orfoledd mawr, Griffith Roberts Penbryn- hafoty yn gorfoleddu â'i freichiau i fyny. Yr achlysur o'r gorfoledd y tro hwnnw ydoedd gwaith gwr o'r enw Robert Jones yn dod i mewn gan waeddi, "A gaf fi le yma ?" Yna fe ganwyd, "Beth yw'r udgorn glywai'n seinio? Brenin Seion sydd yn gwadd." A chanu hir fu arno.

Rhif yr eglwys yn 1833, yn fuan ar ol y diwygiad, 61; yn 1838, 50; yn 1840, blwyddyn y diwygiad, 72; yn 1844, 53; yn 1848, 48; yn 1854, 59; yn 1858, 65; yn 1859, 106; yn 1860, 124; yn 1866, 97.

Yn 1861 y dewiswyd Thomas Williams Penfforddelen, Tŷ rhos wedi hynny, yn flaenor. Y flwyddyn hon, hefyd, yr aeth Carmel yn daith gyda Cesarea.

Cynhaliwyd yma Gyfarfod Misol yn Gorffennaf 11 a 12, 1864. Mae cofnod yn rhoi ar ddeall fod achos crefydd yn siriol iawn ar Fynydd Carmel, a bod yma oddeutu cant o aelodau gweithgar, ac fel âg un ysgwydd yn dwyn y gwaith ymlaen. Mai £45 oedd y ddyled ar y capel, a hwnnw yn rhydd-ddaliadol. Danghoswyd serch mawr at y Cyfarfod Misol gan yr ardal yn gyffredinol.

Yn 1864 y gwnawd Evan Jones Ty newydd a William Roberts Bryn naidhir yn flaenoriaid.

Tachwedd 23 y bu farw Evan Roberts, brawd Trefor Roberts, yn flaenor er 1854. Ganwyd ef yn Clawdd rhos uchaf yn 1808. Ar ol ymadawiad Griffith Williams Cae Goronwy, fe benodwyd Evan Roberts yn arweinydd y gân. Nid oedd ganddo lais canu. Nid oedd y Sol-ffa na thonau Ieuan Gwyllt mewn arferiad yma y pryd hwnnw. Ymroes i ddysgu canu i'r plant. Gwr ffyddlon. Dywedai un am dano, yr elai Evan Roberts i'r seiat ar gefn cynhaeaf gwair.

Ar farwolaeth Evan Roberts y codwyd Hugh Menander Jones yn arweinydd y gân. Yr oedd y canu ar y pryd yn isel yma. Pan aeth Menander a llyfr tonau Ieuan Gwyllt gydag ef i'r cyfar-