Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arferai wasanaethu mewn angladdau yn niffyg gweinidog. Dyma'r pennill roddai efe allan fynychaf

Beth dâl gobeithio'r gore o hyd,
A byw'n anuwiol yn y byd.
Yn Nydd y Farn bydd chwith i ni,
Pan ddywed Duw, Nid adwaen chwi.

Gwr diymhongar, pwyllog, gofalus am yr achos, cyson yn y modd- ion. Gonest, didwyll, a'i wyneb wedi ei osod tua'r nefoedd. Er wedi marw yn llefaru eto, a'i goffadwriaeth fel eiddo'r cyfiawn yn fendigedig. Cafodd gynhebrwng tywysogaidd yn eglwys Thomas Sant.

Symudodd Thomas Williams Ty'n rhos i Frynrodyn yn 1869. Yr oedd ef wedi symud o'r Waenfawr yma, gan ymsefydlu ar y cyntaf ym Mhenfforddelen. Yn flaenor er 1861. Ni enwir ef yn rhestr yr arolygwyr, ond fe ddywed Rowland Owen ddarfod iddo lwyddo i roi gwedd newydd ar yr ysgol, yn enwedig yn ei hefrydiaeth o ddiwinyddiaeth. A dywed ddarfod iddo lafurio mor lwyddiannus gyda dosbarth o ddynion ieuainc nes eu cael hwy eu hunain yn athrawon effeithiol yn yr ysgol. Medrai ofyn cwestiynau da a chymhwyso'r gwirionedd adref hefyd. Cynllun o flaenor o'r hen ysgol. Newidiwyd y seiat o nos Fercher i nos Wener yn bennaf er mwyn iddo ef fod yn bresennol, am ei fod yn gweithio yn Llanberis.

Fe ddechreuwyd adeiladu'r capel presennol yn Rhagfyr, 1870, a gorffennwyd ef at ddiwedd 1871. Y draul yn £1520, ynghyda rhyw symiau ychwanegol. Ystyrrid ef yn un o'r capelau harddaf yn y cylch ar y pryd. Evan Owen a bregethodd yn gyntaf ynddo, ac yr oedd hynny ar y Sul, Rhagfyr 3, 1871. Agorwyd ef yn ffurfiol ar y 13 a'r 14, pryd y gwasanaethwyd gan Dafydd Morris, Peter Jones Llanllechid, Joseph Jones Borth, John Pritchard Amlwch. Rhif yr eglwys yn 1870, 99; yn 1871, 101. Yna bu cynnydd amlwg, canys yr oedd y rhif yn 1874 yn 152. Y ddyled yn 1870, £230; yn 1871, 1810.

Yn 1874 galwyd Owen Owen Jones ac O. G. Owen (Alafon) yn flaenoriaid. Yn 1876 fe ddechreuodd Alafon bregethu.

Yn 1876 fe gynhaliwyd Cyfarfod Misol yma, a pharatowyd y ymborth mewn pabell. Yno hefyd yr eisteddid i fwyta. Ond nid mor hamddenol y teimlai y dieithriaid ar y llecyn uchel hwn o