Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwythu ymaith, chwi fyddech yn gwneud gwasanaeth i'r Ar- glwydd." Ni chyfrifid ei fod yn meddu ar nemor o allu, ac yr oedd rhyw ddiofalwch yn perthyn iddo. Er hynny yn wr ffyddlon a gwir grefyddol.

Yn 1883 y derbyniodd Alafon alwad i eglwys yr Ysgoldy.

Yn 1889 y symudodd Owen O. Jones i Dalsarn. Gwnawd ef yn flaenor yno yn 1893. Bu'n arwain y canu yma am flynyddoedd gyda Mr. Menander Jones. Bu'n ysgrifennydd yr eglwys am flynyddoedd. Efe a aeth i Awstralia yn 1857, lle y bu yn wasanaethgar efo'r ysgol Sul.

Yn 1889 yr ymadawodd Griffith S. Parry, gan dderbyn galwad o'r Borth, Porthmadoc.

Yn 1892 y daeth Mr. Richard Williams Brynteg yma o Cesarea, lle y gwasanaethai fel blaenor er 1881. Galwyd ef i'r swydd yma. Y flwyddyn hon y dechreuwyd cael adroddiad ar- graffedig o gyfrifon yr eglwys.

Yn 1893 y dewiswyd yn flaenoriaid Eleazar William Owen Bryn Carmel a John Elias Jones. Yr un flwyddyn yr ymadawodd Mr. Menander Jones i Hyfrydle, lle y galwyd ef yn flaenor.

Mai 12, 1894, y bu Richard Williams Brynteg farw, yn 46 oed, ac yn flaenor yma ers dwy flynedd. Ganwyd ef yn Llanfairmathafarneithaf, Môn. Yn ddifrif mewn gweddi, yn hyfforddus i'r llesg, yn arweinydd i'r ieuainc. Arweiniai gyfarfod gweddi'r bobl ieuainc yma ac yn Cesarea. Ei arafwch yn amlwg i bob dyn, a chanddo air da gan bawb. Gofal mawr am y ddyledswydd deuluaidd. Cadwai Destament bychan yn ei logell, a darllennai ef pan gaffai hamdden yn y gwaith. Darllenai gryn lawer adref, ac arllwysai ffrwyth ei ddarllen yn y seiadau. Damwain yn y chwarel fu'n achos ei farw.

Medi 4, 1894, y sefydlwyd y Parch. W. Davies Jerusalem, Môn, fel bugail yma. Rhif yr eglwys y flwyddyn hon yn 234.

Yn 1895 y codwyd Hugh R. Edwards ac Ephraim R. Jones yn arweinwyr y gân.

Yn 1896 y dewiswyd Robert Griffith Roberts Penllwyn a David Jones Carmel Terrace yn flaenoriaid.