Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyddyn difyr, John G. Jones Tyddyn isaf. Yna yn flynyddol. Yr ail enw yw yr ysgrifennydd. 1877, O. O. Jones Penbryn hafoty, G. G. Owen (Geraint). 1878, R. G. Jones Tyddyn isaf, G. G. Parry Blaen fferam. 1879, John John Owen Tan y buarth, R. W. Williams. 1886, John G. Jones Tyddyn isaf, R. Ll. Jones Llys Llewelyn. 1887, T. G. Jones Llysmeirion, R. G. Roberts Penllwyn. 1888, E. O. Morris Brongadair, H. J. Jones Tyddyn difyr. 1889, John J. Owen Tanybuarth, T. W. Jones. 1890, John Elias Jones, J. W. Jones. Yr ail enw bellach yw arolygwr ysgol y plant. 1892, R. G. Roberts Penllwyn, T. W. Jones, T. T. Parry Gwyndy. 1893, H. M. Jones, W. J. Jones Tyddyn difyr (ysgrifennydd). 1894, J. G. Jones, J. W. Jones, R. E. Parry Gwyndy. 1895, J. J. Jones Tyddyn difyr, T. T. Parry, R. E. Hughes. 1896, G. Griffiths Bryngwyn, Ephraim R. Jones, H. G. Roberts. 1897, D. W. Humphreys, R. E. Hughes, E. J. Jones Tyddyn difyr. 1898, W. W. Roberts, W. E. Hughes (Ysgr.). 1899, Elias Jones, O. O. Morris, G. T. Parry. 1900, E. W. Owen, H. G. Roberts, H. J. Roberts.

Dyma restr Mr. W. G. Roberts o'r dechreuwyr canu: Griffith Williams Cae Goronwy, Evan Roberts Dolifan, H. M. Jones Tyddyn difyr. Bu ef am ddwy flynedd o Carmel, pan arweiniwyd gan W. Roberts Hafoty wen. Yna, H. M. Jones drachefn. O.O. Jones Penbryn hafoty. Yn ei ddyddiau ef daeth llewyrch newydd ar y canu. Owen Powell a R. W. Roberts. R. G. Roberts Penllwyn. Bu ef am ysbaid yn cyd-ddechre â'r rhai blaenorol, ac am ysbaid gyda'r sawl a'i dilynodd, sef Ephraim R. Jones a H. R. Edwards.

Mr. W. G. Roberts sy'n manylu ar bobl y tŷ capel. John Williams a Catrin Griffith fu'n cadw'r tŷ capel cyntaf. Byddai Catrin Griffith yn gwneud ychydig fasnach yn y tŷ capel, ac adnabyddid hi weithiau fel Catrin Griffith Siop bach. Yr oedd Catrin Griffith yn blaenori yn fwy na'r blaenoriaid, ac ni wiw fyddai iddynt feddwl am symud ysmic heb ei bod hi yno yn cael cydymgynghori â hi. Chwyrn iawn ei ffordd oedd Catrin Griffith, fel un a wyddai pa fodd i gadw tŷ capel. Ar ol Catrin Griffith y daeth Hannah Williams. Yr oedd hon yn wir Hannah, a gelwid ei mab yn John Tŷ capel, yr hwn, fel Samuel gynt, a edrychid arno yn wynfydedig am ei fod yn breswylydd y tŷ. Y mae ef yn awr yn Nerpwl. Bu Hannah dduwiol yn gofalu am y tŷ capel flynyddau