Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer. Robert a Jane Williams yn nesaf. Buont hwy yn yr hen dý am ysbaid, ac yna yn y newydd. Adeiladwyd y newydd tuag 1876, a bu Jane Williams yno ysbaid o 11 mlynedd. Ar hyn o bryd yn byw yn un o ardaloedd Lleyn. Dilynwyd hi gan John G. a Margaret Griffith Tanybwlch. Ac wedi 4 blynedd, dilynwyd hwythau gan Thomas ac Emma Williams, y rhai sydd yma ers 20 mlynedd (1909).

Rhif yr eglwys yn 1900, 259. Y ddyled, £55 19s. 6c.