Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ystod 1871—2 y dewiswyd yn flaenoriaid, John Williams, mab Griffith Williams Penybraich a William Hughes, mab Cefneithin. Symudodd John Williams yn 1879, debygir, i Hyfrydle, canys yn Nhachwedd y flwyddyn honno y galwyd ef i'r swyddogaeth yno.

Yn 1872 fe awd i ryw gytundeb âg Edward Lloyd, ar iddo wasanaethu fel bugail ar yr eglwys, a'i gyflog i fod yn £10. Nid yn rhwydd y daeth hynny o gyflog i law, ac efe a ymadawodd i Nerpwl ym mis Mai, 1873.

Yn 1873 y dewiswyd yn flaenoriaid, Thomas Jones Tanyfron a Griffith G. Williams Broneryri. Y flwyddyn hon y codwyd tŷ capel newydd ar draul o £250. Prynwyd tir ynglyn âg ef am £20 7s. 6ch.

Yn 1873 y derbyniodd Mr. J. J. Roberts alwad i Drefriw. Yr oedd ef wedi dechre pregethu yn Ebenezer, Clynnog, Medi 30, 1867. Yn niwedd 1873 yr aeth William Hughes i Nerpwl i'r ysgol, wedi bod yn flaenor yma am o un i ddwy flynedd. Cymerwyd ef yn glaf, a bu farw cyn nemor o amser. Gwr ieuanc caredig, crefyddol. Hydref 8, 1875, y sefydlwyd y Parch. W. R. Jones yma fel bugail yr eglwys. Daeth yma o Fethesda. Efe a aeth i fyw i'r tŷ capel newydd.

Bu farw Robert Dafydd ym Medi 26, 1878, yn 78 oed, wedi gwasanaethu fel blaenor yma o'r dechre, a chyn hynny yn Nhalsarn. Yn y Fron y preswyliai, ac yr oedd yr Henfron hefyd yn ei ddaliadaeth. Trwy ei offerynoliaeth ef yr agorwyd yr Henfron i'r ysgol ar y cyntaf. Yr oedd efe yn briod âg Elizabeth, chwaer John Jones Ffridd lwyd, gwraig nodedig o grefyddol. Bu'n oruchwyliwr ar chwarel y Fron am ysbaid o flynyddoedd. Dioddefodd waeledd a nychdod am yn agos i'r 20 mlynedd diweddaf o'i oes. Oblegid hyn fe'i cyfyngwyd i'w dŷ am yr ystod hwnnw o amser, oddigerth ar dywydd hyfryd. Defnyddiodd ei amser adref i ddarllen, yn enwedig ei Feibl, fel yr ystyrrid ef yn dra chyfarwydd ynddo. Fe ddywedir y byddai John Jones yn hoff o'i gymdeithas, a darfod iddo adrodd sylwedd rhai o'i bregethau iddo o bryd i bryd cyn eu traddodi. Bu'n weithgar efo'r ysgol Sul, a bu'n offeryn gyda'i chychwyn yn y Gelli ac yma. Gosododd yr Henfron i hen bobl heb fawr o ddodrefn ganddynt am ardreth isel er mwyn ei gael yn