Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Defnyddiai ymddanghosiadau natur ac arferion gwahanol greaduriaid er egluro pethau ysbrydol. Yr oedd yn fawr mewn gweddi yn y dirgel ac ar goedd. Codai ei erfyniadau o ddyfnder calon. Fe ddywedir fod rhai o'i weddiau yng nghyfarfodydd Richard Owen yn hynod iawn. Fel rhyw enghraifft ohono, fe ellir cyfeirio at yr hyn a adroddir ar ei ol pan gododd i siarad mewn Cyfarfod Misol yn Llanllyfni ar yr Ysgol Sul. Dywedai fod arno ofn fod y dosbarthiadau yn fynych yn trin yr adnodau yn lle bod yr adnodau yn eu trin hwy. Yr adnod fel bombshell, yn cael ei throi a'i throsi a'i holi, Pa le y caed yr haiarn i dy wneud di? ymhle y toddwyd di? pwy a'th ddug di yma?' a'r cyfryw gwestiynau. A'r darn haiarn yn ddigon digyffro yn dioddef ei holi. Ond rhyw ddiwrnod dyma ddodi'r bwlet yn y cannon, a dyna'r powdwr a'r tân mewn cyffyrddiad âg o, ac, ar darawiad, dyma fo allan o'r cannon gyda grym a chyflymdra arswydol,—a dyna fraich un wedi ei thorri, clun un arall, a phen un arall. Galanastra mawr! Ac yn gyffelyb y mae'r adnod wedi profi lawer gwaith. Hawdd holi,—Pwy a'th lefarodd di?' 'Beth yw ystyr y gair yma a'r gair acw ynoti?' a'r cyffelyb. Gellir troi a throsi'r adnod yn y dull hwnnw fel peth eithaf diniwed. Ond rhyw ddiwrnod, dyma'r adnod yn nwylaw'r Ysbryd yn ordinhadau'r Efengyl, ac wele hi'n cael ei bwrw gyda nerth i galonnau pechaduriaid, ac, megys y dywedir am Gleddyf yr Ysbryd, hi dyrr drwy bopeth,—hi a wahana rhwng yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mer, a dwg farn i mewn i'r gydwybod. Yr adnod a oddefai ei thrin a'i thrafod mewn dull mor dawel,—nid oes dim bellach a saif o'i blaen, ac y mae hi ar unwaith yn lladd ac yn bywhau. Mewn Cyfarfod Misol yn y Bontnewydd, ar ryw ymdrin ar yr ysgol Sul eto, fe ddywedai ei fod y dydd o'r blaen yn edrych ar y robin goch yn lledu ei draed ac yn canu yn soniarus ar ymadawiad ei gywion â'r nyth. Yr aderyn bach fel yn dweyd, 'Welwchi, fel y maent yn ehedeg! y fi magodd nhw, y fi fu yn yr helbul blin o hel bwyd iddyn nhw! Ond y mae eu gweld wedi magu y fath blu, ac yn hedeg mor hoew, yn ddigon o dâl imi am y cwbl.' Yna fe droes at y pregethwyr oedd yn bresennol. "Deiliaid yr ysgol Sul ydych chwithau, frodyr anwyl! Y mae rhai ohonoch yn hedeg yn uchel iawn. Ond chwi faddeuwch i ambell hen athraw yn yr ysgol Sul am ddweyd yn yr olwg arnoch yn ehedeg ynghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddoch,—Welwchi fel y mae nhw yn ehedeg! Y fi magodd nhw, y fi fu'n hel bwyd iddyn nhw, yn fy nyth i y magasant eu plu, ac y casglwyd nerth ganddynt i ehedeg