Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/275

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NEBO.[1]

DEUAI rhai o aelodau hen gapel y Buarthau o ardal Nebo. Cychwynnwyd ysgol Sul yma yn Nhynyfron yn 1809—10. Adeiladwyd Nazareth, capel yr Anibynwyr, yn 1821, gerllaw y tŷ hwn. William Williams, tad Thomas a William Williams,—y ddau saer maen,— oedd y trigiannydd, ac efe oedd y prif ysgogydd yn y gwaith o ddwyn yr ysgol yno. Efe a ddygai y cymeriad o ddyn duwiol.

Ymhen pum mlynedd o 1810, yn ol yr ysgrif o'r lle; ymhen pedair o 1809, yn ol y Canmlwyddiant, symudwyd yr ysgol i dŷ Catrin Samol, er gwell cyfleustra i'r ysgol. Yr oedd murddyn y tŷ hwn yn sefyll yn 1898, wrth ymyl Rhwng-y-ddwy-afon. Cynyddodd yr ysgol yn amlwg yma. Dywed yr Asiedydd y daethpwyd i gynnal yr ysgol mewn tri thŷ yma, ac y deuid ynghyd i'r cateceisio. (Drysorfa, 1885, t. 334). Yr ysgol yma yn enwog am ddysgu'r Beibl ar dafod leferydd. Fe ddywedir y bu rhywun yma yn dysgu pymtheg Salm bob wythnos, o'r naill wythnos i'r llall, gan eu hadrodd ar y Sul. Fe ddaeth yma dri o bersonau, dau fab ac un ferch, oddeutu triugain oed bob un ohonynt, i ddysgu'r wyddor, a daeth y tri ymhen amser i fedru darllen y Beibl. Delai y rhan fwyaf o'r plant yma yr haf yn droednoeth. Y rhai oedd yn gofalu am yr ysgol yma,—Robert Evans Cil-llidiart (Ty'n llwyn wedyn), Hugh Hughes y Caerau, a John Pritchard Tirion pelyn. Bu'r tri hyn yn flaenoriaid yn Llanllyfni.

Pan adeiladwyd capel Nazareth yn 1821 gan yr Anibynwyr, fe symudwyd yr ysgol yno. Elai rhai o'r Methodistiaid i ysgol Llan— llyfni. Cynelid ysgol hefyd ym Maes y neuadd. Nid yw'n ymddangos prun ai cyn agor Nazareth, ai ynte yn ol hynny, y cychwynnwyd ysgol Maes y neuadd. Symudwyd oddiyma i Bencraig, lle trigiannai John Michael. Gofelid am yr ysgol ganddo ef a Griffith Williams Taleithin. Hen lanc gweithgar a duwiol oedd Griffith Williams, ac un a brofwyd yn ddychryn i anuwioldeb. Symudwyd drachefn o Bencraig i Daldrwst, trigle Thomas Edwards.

  1. Ysgrif o'r lle. Ysgrif William Roberts Bryn Llys, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1880. Nodiadau ar gychwyniad yr Ysgol Sul gan Richard Griffith. Ychydig o'i hanes ei hun gan Richard Griffith, drwy law y Parch. J. Morgan Jones Cerryg y drudion. Adgofion y Parchn. Robert Thomas Talsarnau ; R. Williams, M.A.. Glan Conwy; a J. Morgan Jones. Nodiadau gan Mr. T: H. Griffiths